Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Annghofia i byth mono, mam. Ac erbyn hyn 'rydw i wedi cael gole newydd ar y cwbwl. Mi wn na ddaru mi 'rioed gymeryd interest yn Mhwllygwynt—wyddwn i ddim am dano ond fel 'roeddwn i'n digwydd gwrando ar ambell air a ddywedai nhad wrth bobol eraill. Ond 'roedd y nghalon bron tori pan drodd Hugh Bryan i fynu ar ol colli i arian i gyd yn y Gwaith. Ond 'roeddwn i'n credu nad oedd dim bai ar fy nhad. Ond be ddeydodd o neithiwr? ddeydodd o ddim fod o'n gwybod o'r dechrou nad oedd ene ddim plwm yn Mhwllygwynt? Ac eto 'roedd o'n gallu edrach ar Hugh Bryan yn taflu ei arian i ffwrdd nes iddo golli y cwbwl, a mae o'n dal i adael i Mr. Denman neud yr un peth o hyd. Ydi peth fel hyn yn onest. mam?"

"Mi wela, fy ngeneth, fod tithe fel fine wedi camddallt dy dad, a mi wn mai ni ddaru gamddallt, ac nid y fo gamddeyd. Yrwan y mae o'n gallu deyd nad oes ene ddim plwm yn Mhwllygwynt, ond wydde fo mo hyny hyd yn ddiweddar Sut y galle fo wybod? rho dy reswm ar waith. Er mor glyfar ydio 'does dim rheswm i neb ddisgwyl i hyd yn oed dy dad wybod be sydd yn mherfedd y ddaear nes iddo fyn'd yno i chwilio a chwilio'n fanwl. Ac er fod gyno fo idea go lew—gwell na neb arall mi wn—lle mae plwm i'w gael, mae dyn fel fo yn misio weithie."

"Peth rhyfedd iawn, mam, i ni'n dwy gamddallt y nhad. Ond mae'n dda gen' i glywed mai fel yna 'roedd hi—os fel yna 'roedd hi hefyd."

"'Does dim os am dani, Susi, on' 'doedd dy dad yn deyd â'i dafod ei hun mai fel yna yr oedd, a sut y medri di feddwl fel arall? Bydae pawb yn y byd 'ma mor onest a dy dad, fe fydde golwg arall ar bethe yn bur fuan, a, mi fydde. 'Does gynon ni, dwy na neb arall, wyddost, ddim lle i ddisgwyl cael pobpeth fel yden ni isio. Ac yn y long run fydde fo ddim er ein lles. Cheir mo'r melus heb y chwerw, meddo'r hen air, ac mae'r cwbwl er ein lles ysbrydol, fel 'roedd dy dad yn deyd. Os cei di fyw i f'oed i.———"

Ar hyn daeth y forwyn i mewn.