Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVIII.

CURO'R TWMPATH

.

"Ie," ebe Mrs. Trefor, —wedi i'r forwyn fyn'd allan, "os cei di fyw i f'oed i—a 'rydw i'n gobeithio y cei di, ac yn llawer hŷn—mi gei lawer o bethe na leici di monyn' nhw."

"Yr ydw i wedi cael llawer o rheiny heb ddwad i'ch oed chi, mam."

"Wyddost di mo d'eni eto, wel di, yn enwedig erbyn y doi di i ddechre byw, hyny ydi, pan ddaw gofal tŷ a theulu arnat ti. Ac yn wir, Susi, mi leiciwn dy wel'd di wedi setlo i lawr— wedi priodi a gneud cartre i ti dy hun, achos, yn ol trefn natur, fydd dy dad a fine ddim efo ti am byth, wyddost. 'Rydw i wedi meddwl llawer am hyn yn ddiweddar."

"Dydi'r prospect ydach chi wedi 'i dynu ddim yn ddymunol iawn, mam, ac os peth fel yna ydi 'setlo i lawr,' mae'n well gen' i beidio gwybod 'y ngeni. A ddaru chi 'rioed o'r blaen, mi wyddoch, mam, siarad yn y dôn yna am setlo i lawr. Ddaru chi 'rioed son am ofal tŷ a theulu ac am wybod 'y geni, a phethe felly. Ai nid am beidio taflu fy hun i ffwrdd am beidio edrach ar neb ond rhai gwell na fi fy hun—am gofio pwy oeddwn—am ddal 'y mhen i fynu—ac aros fy amser, ai nid am bethe felly y byddech chi byth a hefyd yn siarad?"

"Mae tipyn o wir yn y peth wyt ti'n ddeud, Susi, ond mi wyddost mai dy les di oedd gen' i mewn golwg bob amser, a 'does gen' i ond deyd 'run fath a dy dad—nad ydw ine ddim wedi bod yn berffaith efo pobpeth. A mi rof eto yr un cynghor i ti—'ẁes dim isio i ti dywlu dy hun i ffwrdd, fel y byddan nhw'n deyd. Mi 'na addef nad ydi pethe ddim yn edrach cweit mor bethma efo ni ag y buon nhw, ac hwyrach na chei di ddim gŵr mor respectable ag y b'aswn i'n dymuno i ti gael. Ond bydae ti'n rhoi dy feddwl ar hyny, a bod yn gall, a pheidio, hwyrach, cadw cweit mor ddustant efo rhai tebyg i ti dy hun, a bod yn ffri, mae digon eto, wel di, o ddynion da i'w cael."

"Ymhle, mam? Wn i am neb mor wirion. A be wnawn