Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn 'wraig i ' ddyn da? ' rhyw ddol fel fi! heb erioed arfer gwneud dim ond segura, gwisgo, a dangos fy hun? Pe cawn i'r cynyg fydde gen' i mo'r gydwybod i dwyllo un dyn da. 'Rydw i wedi newid 'y meddwl am bobpeth, mam, er neithiwr."

"Ddylwn i wir! Mae gen' i ofn fod gormod o natur dy dad ynot ti—meddwl rhy fach o honot dy hun. Felly mae dy dad; fel y deydes i wrtho lawer gwaith, a ddyliwn fod tithe'n myn'd ar 'i ol o. A be ydi dy feddwl di'n galw dy hun yn ddol? Mi fase'n o arw gynot ti glywed neb arall yn deyd hyny, mi dy wranta."

"Dim o gwbwl, mam. Be ydw i ond dol? Mi wyddoch o'r gore na ddaru mi 'rioed bobi, na golchi, cwcio, na smwddio, cyneu'r tân na golchi'r llestri. Ches i 'rioed 'y nysgu i neud pethe felly, ond codlo efo miwsig—gwneud slipper tops—antimacassars, a rhw faw felly, a chael rhoi ar ddeall i mi o hyd fod rhywun mawr i ddwad i neud lady o hono i, ac yn y diwedd 'y nhad yn deyd y bydde raid i mi ddwad i lawr beg neu ddau, a chym'yd rhwf'un y medrwn i gael gafael arno—miner cyffredin ne rwfun! mam, mae gen' i g'wilydd o honof fy hun—'rydw i'n libel ar yr enw merch! "

"Wyddost ti be? 'roeddat ti'n deyd gyne fod ti'n ofni fod dy dad yn drysu'n 'i synwyre, ond yr ydw i agos yn siwr fod fi'n drysu. On'd oes ene ganoedd o ferched sy wedi'n magu yn respectable na wyddan nhw ddim am y pethe wyt ti'n sôn am danynt' nhw. Gwaith morwyn ydi'r pethe ene, er nad oes dim harm fod pawb yn 'u medryd nhw in case y bydd raid 'u gneud nhw. A siwr ddigon pwy bynag briodi di na chei di forwyn?"

"'Dydi miners ddim yn cadw morwynion, mam."

"Paid a chyboli, da ti, a phaid a harpio ar y gair ene ddeydodd dy dad yn 'i wylltineb neithiwr. Mi fydde'n o arw gen' i dy wel'd di'n priodi meinar, a mi fydde hefyd. On'd oes ene ddigon ddynion mewn busnes y bydde yn dda gynyn nhw dy gael di—geneth fel ti, sydd wedi cael ediwceshyn. Ac, yn wir, bydawn i'n myn'd yn ferch ifainc yn f'ol, mi fydde'n well gen' i gael dyn mewn busnes yn ŵr na'r peth mae nhw'n alw yn ŵr bonheddig. Mwya' ydw i'n 'i weled o honyn' nhw sala yn y byd ydyn' nhw yn 'y ngolwg i. Ond y mae dyn o fusnes yn ddyn o fusues a llai o lol o'i gwmapas o. Er engraifff 'rwan, deue rwfun fel Mr. Huws, Siop y Groes, mi fase'n well o lawer