Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gen' i briodi rhwfun fel fo na lot o'r rhai sy'n galw 'u hunen yn fyddigions

"At be 'rydach chi'n dreifio, mam? I beth 'rydach chi'n sôn am Enoc Huws wrtho i? Ydach chi'n meddwi gneud match rhyngo i âg Enoc Huws? Be ydi'r dyn i mi? Be waeth gen' i am Enoc Huws, bydae o gan' mil mwy cefnog? Mae'r dyn yn eitha, am wn ni, ond dda gen' i mono, a dyna ben ar hyn yna."

"Be haru ti, dywed; be naeth i ti feddwl mod i'n treio gneud match rhyngot ti a Mr. Huws? 'Doeddwn i ddim ond yn 'i enwi o fel engraitff. A phaid a bod mor binco! mae'n debyg arw na dryche Mr. Huws ddim arnat ti? Mi feder dyn fel fo sy'n dda arno gael y neb a fyno. Paid a meddwl! dydi gwragedd ddim mor brin a hyny, wyr dyn! Mae'n arw o beth na feder un son am rwfun fel Mr. Huws heb i ti fyn'd i feddwl fod un isio gwneud match. Dim ffashiwn beth, 'y ngeneth i! ymgroesa! Mae ene ddigon o ferched cystal a tithe y bydde'n dda gynyn nhw gym'yd Mr, Huws, heb i ti roi pont dy ysgwydd o'i lle! Oes yn ene'r anwyl! Mi fase rhwfun yn meddwl ar dy siarad di 'rwan just fod ti am wisgo sachlïan a lludw. Ond sefwch o'r gole! pwy ond y ni! "

"'Dydw i'n deyd dim, mam, am Enoc Huws, Mae'r dyn yn eitha—yn ganwaith gwell na fi. Deyd yr ydw i na dda gen' i mo'no."

"Pwy sy'n hidio pwy sy'n dda gynot ti a phwy sy' ddim? A rhaid i mi gael gynot ti beidio galw y dyn yn Enoc ac yn Enoc o hyd. Mae'i sefyllfa, tybed, yn haeddu iddo gael ei barchu a'i alw'n Mistar cystal ag wyt tithe'n haeddu cael dy alw 'n Miss."

"Yn llawer mwy, mam. 'Dydach chi ddim yn 'y nallt i. Mae Enoc Huws—neu Mistar Huws, fel yr ydach chi'n dymuno 'i alw—yn annhraethol well na fi, ond dda gen' i mo'r dyn. A be ydach chi'n sôn am i mi briodi? 'Does gen' i ddim eisieu priodi, a 'dydw i ddim am briodi, pe cawn i'r cynyg, nes bydda i'n ffit i briodi. Chaiff yr un 'meinar cyffredin' na 'dyn o fusnes' achos i edifarhau yno i byth, mam,"

"O, felly! Be bydae Mr. Huws yn newid 'i feddwl ac yn gwrthod joinio dy dad gyda'r fentar newydd? A leiciet ti fyn'd i wasanaeth?"

"Leiciwn, mam, os cawn i felly ddysgu gneud rhywbeth, a