"Dydw i ddim yn tyngu nac; yn rhegi, am y sterics wn i ddim beth ydi hwnw."
"Wel, be ydi—dy—feddwl—di—dywed?"
"Fy meddwl i ydi hyn—os gwel yr Arglwydd yn dda i mi gael byw, na fydda i byth eto yn humbug. Er neithiwr, mam, yr ydw i wedi cael gole newydd ar bobpeth, a mae gen' i g'wilydd o honof fy hun."
"Felly gelli di, os gwn i be ydi be. Er clyfred ydi dy dad, naeth o 'rioed fwy o fistêc na sôn am 'i helyntion yn dy glyw di neithiwr, achos wyddost di ddim byd am fusues, a 'does dim posib rhoi dim yn dy ben di, a feder neb dy droi di os byddi di wedi cym'yd at rwbeth. Mae gystal gen' i ag wn i ddim be nad ydi dy dad yn dy glywed di. A 'rwyt ti wedi fypsetio i gymin fel nad wn i yn y byd mawr sut i fyn'd can belled â'r London House, ac eto mae'n rhaid i mi fyn'd, achos 'roeddan nhw'n deyd y bydde'r ddres yn barod i'w ffitio bore heddyw. A bydase tithe yn rhwbeth tebyg i ti dy hun faswn i'n hidio dim ag ordro dres newydd i tithe, er nad oes yr un mis er pan gest un o'r blaen. Ond ni gawn wel'd tebyg i be fyddi di pan ddo'i 'n ôl. Gobeithio y byddi di wedi d'od o dy stymps, ac y ca' i wel'd tipyn edifeirwch ynot ti. 'Rydw i'n myn'd 'rwan,. Susi—Susi, 'rydw i'n myn'd?"
"Purion, mam."
- Exit Mrs. Trefor.
"Rheswm anwyl! be ydan ni fel teulu? Mae mam neu fi wedi glân dd'rysu. Wela i yn y myw ddim ond tlodi a gwarth o'n blaene ni. Mae'n rhaid 'y mod i wedi bod yn breuddwydio hyd heddyw. 'Roedd yn gâs gen' i bob amser glywed son am 'fusnes,' y 'farchnad,' y 'cwmpeini,' a phethe felly. 'Roedd yn boen i rai feddwl am danynt. Pethe i ddynion oeddan nhw, yn ol 'y meddwl i. 'Y mhwnc i bob amser oedd byw, mwynhau fy hun, a gwisgo a chodlo. Mi wyddwn fod y 'nhad yn glyfar, a 'roeddwn i'n wastad yn credu ei fod yn gyfoethog. 'Rydw i wedi byw mewn balloon, ac wedi dwad i lawr fel carag. Ddaru mi 'rioed feddwl—ie, dyna lle 'roedd y drwg—ddaru mi 'rioed feddwl am bethe felly, na meddwl fod isio i mi feddwl. ddaru meddwl i erioed ddeffro dan bore heddyw. Ond diolch i Dduw, yr ydw i'n credu fod gen' i feddwl eto, fel rhw eneth arall. A rhyfedd na faswn i wedi golli o, a fine heb ei ddefnyddio am g'yd o amser! Ydi nhad yn ddyn gonest? Ddaeth