Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cwestiwn erioed i'm meddwl i o'r blaen, a dydio ddim wedi dwad i feddwl 'y mam eto. Tybed ai fi sy ddim yn dallt? Ai'r peth oeddwn i'n arfer alw anonestrwydd ydi'r peth y mae eraill yn alw yn fusnes? Wn i ddim beth ydi busnes. 'Roedd gen' i idea mai rhywbeth syth, above, board—rhywbeth na fedrai neb ei edliw oedd gonestrwydd. A dene be ydio hefyd, neu 'rydw i'n idiot, 'Roeddwn i'n meddwl fod 'y nhad yn berffaith onest, a mi fydde'n well gen' i farw na ffeindio nad ydio ddim. Ond y mae rhywbeth yn 'y nghorddi i, chwedl 'y mam—mae meddyliau drwg lon'd 'y nghalon i. Gobeithio 'y mod i'n methu. Ddaru mi gamddallt? Gobeithio. Ond mi wnes un mistake feddylies fod 'y nhad a mam—wedi bod yn planio gneud mach rhyngo i ac Enoc. Wn i ddim o b'le daeth 'y meddwl i mi os nad o fy vanity. O, vanity felldith! os ca' i fyw, mi dy groga di gerfydd corn dy wddw, mi gymra fy llŵ! Leth bynag ddaw ar ol hyn—beth bynag fydd ein hamgylchiadau ni—fydd ene ddim chwaneg o humbug yn Susan Trefor. Na, dim humbug, chwedl Wil, druan."

PENNOD XIX.

PWLLYGWYNT.

Yn mhlith amrywiol ragoriaethau Capten Trefor, nid y lleiaf, yn ddiamheu, oedd ei allu i ragweled digwyddiadau pwysig. Ac ni tharawodd efe yr hoel yn ei phen yn fwy cywir nag yn ei brophwydoliaeth am Bwllygwynt. Oblegid cyn nemawr o wythnosau yr oedd yr hen Waith yn sefyll yn llonydd, neu, yn ngeiriau desgrifiadol prophwydoliaeth y Capten—yr oedd "Pwllygwynt â'i ben ynddo." Nid yn unig nid oedd y "bydle yn fywiog," "a'r troliau yn cario'r plwm i Lanerchymor" (yr hyn na ddigwyddodd erioed yn Mhwllygwynt), ond nid oedd hyd yn nod yr "engine yn chwyrnu." Yn nghymydogaeth Pwllygwynt yr oedd distawrwydd yr engine yn boenus i'r trigolion. Yn sŵn engine Pwllygwynt yr oedd llawer o'r