Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

plant wedi eu geni a'i magu—wedi bod yn chwareu—yn myn'd i'r ysgol ddyddiol ac i'r capel, yn swn yr engine yr oedd rhieni a phlant wedi arfer gwaeddi wrth siarad er mwyn gwneud eu hunain yn glywadwy. Yr oedd Bob Mathews, y bird catcher, yn cael chwe' cheiniog y pen ychwaneg am bob nico a ddaliai yn nghymydogaeth yr engine, am ei bod yn ffaith sicr fod yr adar yn canu yn uwch a chliriach nag adar o gymydogaethau eraill. Sul, gwyl a gwaith, yr oedd trwst yr engine wedi bod yn rhan mor wirioneddol o fywyd yr ardal ag ydyw trwst yr afon neu y rhaiadr gwyllt lle digwyddo natur fod wedi eu cyfleu. Wedi i'r Gwaith sefyll, ymdeimlai y bobl oedd wedi arfer byw yn ei ymyl fel pe buasent wedi newid eu trigfod; am amser, nes iddynt gynefino, teimlent yn rhyfedd, gan ymholi o hyd am yr achos o'r teimlad. Edrychai y gwragedd ar y cloc—a oedd wedi sefyll? Am ysbaid, teimlai'r trigolion anhawsder i gysgu'r nos. Yr oedd engine y Gwaith wedi gwasanaethu fel cryd iddynt, a phan beidiodd y cryd a rhoncian, agorodd pawb ei lygaid yn effro iawn. Ond nid oedd hyn ond peth bychan a dibwys mewn cymhariaeth. Buan y sylweddolodd y trigolion wir ystyr y distawrwydd. Ystyriai fod ugeiniau o ddynion oeddynt yn benau teuluoedd allan o waith—ugeiniau oeddynt wedi arfer byw o'r llaw i'r genau, heb ddim ganddynt iddynt hwy a'u teuluoedd ar gyfer y dyfodol, ac nid yn unig hyny, ond nad oedd y gorphenol yn lân a dialw arnynt, fel y gallasai ambell lyfr siop dystiolaethu. Tu allan i gylch y gymydogaeth, peth bychan oedd fod Pwllygwynt wedi sefyll. Prin y cyrhaeddodd y newydd i gyrion y sir. Dichon, ar ddamwain, i'r newydd ddisgyn ar glyboedd rhywrai a drigent ddeng milltir oddiyno, a dichon iddynt ddweyd, "Piti mawr!" ond ni ddarfu iddynt byth feddwl am y peth wed'yn. Ond i'r mŵnwyr truain oeddynt wedi arfer dibynu yn hollol ar Bwllygwynt am eu cynhaliaeth, yr oedd i'r Gwaith sefyll yn amgylchiad prudd a chwerw iawn. Yr oedd eu cyflogau, wyr dyn, ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn drueuns o fychain, prin yn bedwar swllt ar ddeg yr wythnos, ond yr oedd y goreu y gallai Gapten Trefor, dan yr amgylchiadau, ei fforddio iddynt. Wrth lunio'r gwadn fel bo'r troed, yr oeddynt hwythau wedi gallu byw ar hyny. Trigent tu allan i gylch y bwrdd lleol, ac felly, er fod y cut yn fynych o fewn llai na phum' llath i'r tŷ, yr oeddynt yn gallu cadw