Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mochyn, yr hwn, pan ddeuai yn barod i'r gyllell, a dalai y rhent. Yr oedd Thomas Bartley wedi pregethu iddynt am lawer o flynyddoedd—yn enwedig ar ddiwrnodau ffair, ar y buddioldeb i ddyn tlawd gadw mochyn, ac yr oedd ffrwyth amlwg i'w weinidogaeth yn mhlith mŵnwyr Pwllygwynt. Er mai rhyw ddau, neu dri fan bellaf, o foch a brynai Thomas yn ystod y flwyddyn, yr oedd ei bresenoldeb yn mhob ffair yn y anhebgorol. Anfynych y rhyfygai neb o'r cymydogion brynu porchell neu 'storyn mewn ffair heb ymgynghori â Thomas Bartley, ac os gwnaent, ond odid na chanfyddent yn fuan eu bod wedi gwneud bargen ddrwg. Yr oedd Thomas fel hyn yn colli chwe' diwrnod clir mewn blwyddyn i wasanaethu ei gymydogion heb un geiniog o dâl. Paham y grwgnacha beirniaid Eisteddfodol eu bod yn beirniadu am y nesaf peth i ddim unwaith yn y fiwyddyn? Rhaid i mi gydnabod y byddai Thomas, ar adegau, yn sylweddoli gymaint o amser yr oedd efo yn ei golli i wasanaethu pobl eraill, ac yn penderfynu weithiau nad elai byth i ffair ond pan fyddai gwir angen arno am brynu mochyn iddo ef ei hun. Ond pan ddeuai diwrnod ffair dechreuai ei gydwybod ei gyhuddo, ac yn y rhagolwg am y posibilrwydd i rai o'i gymydogion wneud bargen ddrwg, dywedai—"Barbra, fedrai yn 'y myw las fod yn gyfforddus heb fyn'd i'r ffair,"' ac i'r ffair yr elai yn sionc ddigon.

Trâ yn sôn wrth Thomas un diwrnod am y buddioldeb gadw mochyn ebe fe—

"Mi glŵi rw bobol yn deyd mae'r peth gwriona ar chwyneb y dduar ydi cadw mochyn. A rydw i wedi notishio wastad ma pobol ddiog, ddi-sut at fyw, ydi rheini sy'n deyd felly. Doe dywaetha'n y byd rodd yr hen Beti William yn gofyn i rai —'Tomos Baitle,' medde hi, ' ydach chi'n meddwl fod cadw mochyn yn talu i chi?' a be finne—'Bydae pawb yn talu cystal â'r mochyn mi naen y tro, Beti. Weles i yriuod fochyn na thalo fo, ond mi weles ambell wraig na thale hi byth.' Roedd arni ddeuswllt i mi am drwsio pâr sgidie es gwn i bryd, wyddost, a mi ges chance i roi pwyth i'r hen feuden, a welest ti yrioud mor chwim y trodd hi'r stori. Ond rhyngot ti a fi—a siarad yn byticilar, dydw i ddim yn meddwl fod cadw mochyn yn talu, os ei di gyfri pobpeth a rhoi pris ar bob peth wyt ti'n neud. I ddechre, dydio ddim yn talu i ddyn sy'n rhy falch— no ffens, cofia,—i nol bauch wellt ac i garthu'r cut. A dydio