Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim yn talu i ddyn heb gydwybod i roi bwyd priodol iddo fo; achos ma'n rhaid i'r mochyn, wyddost, fel rhw ddyn arall gâl bwyd priodol cyn y daw o byth yn i flaen. On' dyma ydw i'n ddeyd—a mi deyda fo tra bydd chwythod yno i—i ddyn tlawd —dyn wrth i ddiwrnod gwaith—na neiff o byth ddim byd gwell na chadw mochyn, yn enwedig os bydd tipyn o foron y maes a dalan poethion yn tyfu yn agos i'w dŷ o—champion o bethe i fochyn. Fel hyn yr ydw i'n edrach ar y peth—ma cadw mochyn yn debyg anwêdd i'r sefins banc. Ddeydet ti byth—a siarad yn byticilar—fod y sefins banc yn talu—achos be ydi tw an a hâff, ddyn glân? dydio ddim gwerth i ddyn hel i dipyn prês yno—hyny ydi er mwyn yr interest. Ac eto ddeyde run dyn yn ei sens nad ydio'n beth da rhoi arian yn y sefins banc. Yn ol y meddwl i,—a rydw i, o ddyn cyffredin, wedi magu cymin o foch a neb yn y wlad ma—ma cadw mochyn yn talu'n well o lawer nar sefins banc. Achos fel hyn rwan, dyma ti'n meddwl am ddyn yn pendrafynu byw yn gynil a rhoi ei arian yn y sefins banc. Veri good. Dwed fod o'n safio swllt yr wsnos. Or gore. Ond ambell wsnos mi fydd yn binch ar y dyn—mi fydd wedi colli diwrnod—ne mi geiff i demtio i brynu rhwbeth na fydd o moi isio, a mi geiff y sefins banc gymyd i siawns, a weles di yrioud lai fydd yn y banc erbyn diwedd y flwyddyn. Ond, bydase gan y dyn fochyn a chydwybod i'w ffidio'n dda, mi fase'n bownd o morol am fwyd iddo