Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haner coron ene wedi myn'd,' a mi â'th at y post arall, a rodd hwnw wedi gloewi hi, a felly rodd y tri, a welodd Ned byth'u lliw na'u llun nhw. Rodd yn dda gan y wraig gâl gafel ynyn nhw, mi wranta. Ond mi fu no dipyn o row, fel y gelli di feddwl, a ma nhw'n deyd i mi na fuon nhw byth run fath fel gŵr a gwraig, a bod Ned yn smocio mwy nag yrioud. Anodd iawn ydi i ddyn tlawd gadw arian yn tŷ. Aros di, lle roeddwn i arni? O ie,—dydi dyn, rwsut, ddim yn leicio mynd hefo rhw dreifflach i'r bauc, achos with i weld o'n mynd yno yn amal mi eifFpobol i ddeyd fod o'n werth i filoedd, a mi fydd pawb yn mynd ato i ofyn benthyg, ac os daw hi'n binch ar y dyn i hun fydd ene ddim cydymdeimlad â fo. Ond dyma ddyn yn cadw mochyn mae o'n hel rhw dipyn i'w fol o deirgweth yn dydd o leie, a dydio'n gwbod fawr odd wrtho, ac o dipyn i beth mae o'n dwad yn rhwbeth yn y diwedd, wyddost. Ma nhw'n deyd i mi ma dene sut y mae'r Gwyddelod ene'n haccio byw, ag y bydde'n well gynyn nhw fod heb hôm riwl nag heb gut mochyn, a mi greda hyny'n hawdd. Ond yr ydw i wedi notishio fod llai o fagu moch gan bobol dlawd nag a fydde, yn enwedig yn y trefydd. A'r rheswm am hyny, meddan nhw, ydi—nid fod pobol yn fwy respectol, ond am fod y Locol Bord yn'u stopio nhw, ac am fod bacyn y Merice mor rhad. Dene'r felldith fwya ddáth yrioud i'n gwlad ni ydi'r Locol Bord a bacyn y Merice—yn ol y meddwl i. Ma'r Locol Bord yn tref— ydd yn stopio'r tlodion i gadw mochyn, ac o herwydd hyny dydi'r tlodion, rwan, byth yn meddwl am blanu tatws yn y cae. Achos i be y planan nhw datws os na chan nhw gadw mochyn? A dyne lle ma nhw yn sychglemio ar hyd y flwyddyn, ac yn rhedeg i'r siop i nol cnegwaeth o facyn y Merice a chnegwaeth datws—yn lle bod, fel y bydde pobol es talwm, a dwy hog datws yn'r ardd a mochyn yn nhop y tŷ. Wn i ar chwyneb y dduar sut ma'r tlodion yn câl tamed yn trefydd ene. A llun garw sydd arnyn nhw meddan nhw. A'r cwbwl o achos y Locol Bord. Dwn am ddim sydd yn porthi diogi gymin a'r Locol Bord. Achos, es talwm, mi fydde dyn, ar ol dod o'i waith, a molchi, a châl i dê, yn mynd i'r cae tatws i roi twtch o chwynu ne fforchio, ne ynte yn myud i nau tan y mochyn. Ond i'r tafarne y ma'r bobol yn mynd rwan. A chlwi di byth sôn y dyddie yma am ' swper tir tatws.' A'r cwbwl i gyd o achos y Locol Bord. Fu yrioud shwn beth! Be ddeudest di?