Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—er m'wyn cadw y ffefars i ffwrdd? Lol i gyd! Ma nhw'n deyd os bydd cut y mochyn o fewn pum' llath i'r tŷ y bydd y ffefar yn bownd o ddwad, ond os bydd y cut bum' llath a dwy fodfedd odd "wrth y tŷ y bydd pawb yn saff! Glwcst di erioed siarad gwirionach yn dy fywyd? Mi na i gyfadde fod llai o'r frech wen yrwan nag a fydde es talwm; ond nid i'r Locol Bord yr yden i ddiolch am hyny, ondi'r Brenin Mawr a'r nocylashon. Wyst di be, nawn i ddim sefyll yn sgidie y Locol Bord ene am y byd ma. Mi fydd gynyn nhw gownt mawr i'w roi rhw ddiwrnod. Ond diolch y mod i allan o'u bache nhw."

Ond yr wyf yn crwydro. Y ffaith oedd fod agos bob un o weithwyr Pwllygwynt yn magu mochyn ac yn planu tatws yn y cae. Mae yn syndod meddwl ar cyn lleied o arian y mae llawer o weithwyr Cymru wedi gallu byw a magu teuluoedd lluosog. Mewn llawer amgylchiad yr oedd nifer y geneuau yn mron yn gyfartal i nifer y sylltau a enillld yn wythnosol gan y penteulu. Nid oeddynt yn llwgu, nid oeddynt yn noethion. Yn wir, yr oeddynt fel teulu yn gallu dyfod yn daclus i'r capel; ac nid hyny yn unig, ond yr oeddynt yn gallu rhoi ychydig at yr achos. Pa fodd yr oeddynt yn gallu gwneud hyny—y nefoedd fawr a ŵyr! Mae yn rhaid dyfod i'r penderfyniad fod eu hanghenion anhebgorol yn fychain iawn, a'n bod ni y dyddiau hyn yn gwario llawer o arian am bethau y gellir gwneud hebddynt. Gyda chyflogau truenus o fychan, yr oedd mŵnwyr Pwllygwynt wedi gallu byw, magu plant, a rhoi ychydig o ysgol iddynt—ond pa sut—wel, nis gallaf ddychymygu. Eglur yw nas gallai y rhai mwyaf darbodus o honynt roddi dim o'r neilldu ar gyfer diwrnod gwlawog. Fel yr aderyn sydd yn byw o ddydd i ddydd heb ganddo ddim darpariaeth ar gyfer yfory, felly yr oeddynt hwythau yn byw o seiet i seiet, a phan safodd Pwllygwynt yr oedd eu tlodi a'u trueni yn fawr arnynt. Pe buasai Pwllygwynt yn arfer talu deg punt y mis i bob un o'r gweithwyr, prin y gallasai eu gofid a'u galar fod yn fwy dwys pan safodd y Gwaith. Er fod y cyfyngder wedi dyfod ar y nifer mwyaf o"r gweithwyr yn hollol ddiddisgwyl, nid oedd rhai o'r hen ddwylaw yn anmharod o ran eu meddyliau i gyfarfod yr amgylchiad. Gwelent yn eglur nas gallai unrhyw Gwmni ddal i wario arian yn barhaus heb dderbyn ond y nesaf peth i ddim yn ol. Hoblaw hyny, yr oedd gan Capten Trefor ei gymeriad a'i enw da i'w gadw, ac yr oedd efe wedi cymeryd