Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Erhai o'r gweithwyr mwyaf profiadol i'w gyfrinach er's tro. Perthynai i Bwllygwynt ŵr o'r enw Sem Llwyd, yr hwn, heblaw ei fod yn grefyddwr ac o gymeriad dichlynaidd, a ystyrid yn oracl ar y dull goreu o weithio gweithfeydd mŵn. Cyndyn iawn a fyddai Sem i ddweyd ei farn ar unrhyw beth os na fyddai yn siwr o'i fater. Pan benderfynid gyru mewn cyfeiriad newydd yn y Gwaith, cadwai Sem ei farn am lwyddiant tobygol yr auturiaeth hyd nes y ceid prawf teg, ac yna datganai ei syniad yn ddifloesgni, yr hwn, wrth gwrs, a fyddai bob amser yn gywir. Ni wybuwyd erioed i Sem wneud camgymeriad yn ei farn. Pan wasgid arno gan Capten Trefor, am ei syniad yn mlaen llaw ar unrhy w anturiaeth, gofalai Sem am roi digon o os o'i gwmpas, a byddai y qulifications mor helaeth fel, pa fodd bynag y troai yr anturiaeth allan, y byddai barn Sem yn iawn! O herwydd hyny, fel y dywedwyd, ni wybuwyd erioed i Sem fethu yn ei farn. Yn nglyn â gweithiad Pwllygwynt ni phetrusai Sem ddweyd ei farn yn groew a dianmwys ar un peth, a da y gwyddai Som nad oedd y peth hwnw o fewn terfynau posibilrwydd i'r Cwmni byth ei gario allan. Pan gyfarfyddai y gweithwyr yn dwr i gael mygyn—yr hyn a wnaent yn fynych—oblegid nid oeddynt yn credu mewn gorwoithio, ac yr oeddynt oll yn gydnabyddus â'r penill—

"Y mae chwech o oriau 'n ddigon
I bob un o'r miners mwynion,
I fod rhwng y dyrus greigiau
Mewn lle miyglyd yn llawn maglau"

pan gyfarfyddent felly, meddaf, mynych y rhoddai Sem y wedd fwyaf doeth ar ei wyneb, ac y datganai ei farn yn glir i wrandawyr llawn edmygedd ar yr hyn y dylasai Cwmni Pwllygwynt fod wedi ei wneud os oeddynt wedi breuddwydio i'r Gwaith fod yn llwyddianus. Yr oedd Sem Llwyd yn un o'r rhai a gymerasai y Capten i'w gyfrinach, ac nid oedd efe yn anhysbys o ddrychfeddyliau gwyllt Sem. Pan gaffai y Capten Sem ar ei ben ei hun, rhedai yr ymddyddan rywbeth yn debyg i hyn—

"Wel, Sem, beth ydyw eich barn am yr hen Waith yma, erbyn hyn?"

"Yn wir, Capten, mae'n anodd deyd, a bod yn siwr."