Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Yr wyf yn credu, Sem, eich bod chwi a minau yn synio yn led debyg am Bwllygwynt. Pe cawswn i fy ffordd fy hun, mi fuaswn wedi gwneud fel hyn ac fel hyn." Ac yna awgrymai y Capten ryw gynlluniau cyffelyb i'r rhai y clywsai fod Sem yn eu gwyntio. "Ond waeth tewi, Sem, mae gen' inau fy meistar, ac os fel hyn y mae'r Cwmni yn dewis gwneud, eu look out nhw ydyw hyny. Ond mi ddywedaf hyn, nad oes dim posib cario mlaen fel hyn yn hir."

"Ddaru chwi 'rioed, Capten, ddeyd mwy o wir, a 'rydw i wedi deyd 'run peth laweroedd o weithiau, mae'r dynion yn gwybod. A mae o'n andros o beth, Capten, na chai dyn fel chwi, sy'n gwybod sut i weithio mein, ei ffordd ei hun."

"Sut bynag, Sem, felly mae pethau'n bod."

Ar achlysuron penodol, prophwydai Sem yn ddoeth am ddiwedd buan Pwllygwynt, ac eglurai y rheswm am hyny— sef nad allai y Capten gael ei ffordd ei hun. Pan safodd Pwllygwynt nid oedd neb yn rhoi'r bai am hyny wrth ddrws Capten Trefor. Dywedai Sem Llwyd, ac eraill, erbyn hyn, fod y Capten wedi eu rhybuddio, a phe cawsai y Capten ei ffordd ei hun o drin y Gwaith y buasai yr "engine yn chwyrnu, y bydle yn fywiog, a'r troliau yn cario'r plwm i Lanerchymor." Y Cwmni yn Llunden oedd yr achos o'r holl ddrwg. Ac fel hyn yr oedd y Capten, er ei fod wedi colli ei gyflog, wedi llwyddo i gadw ei enw da yn mhlith ei gymydogion. Credai yr ardalwyr yn lled gyffredinol pe cawsai y Capten ei ffordd ei hun y buasai Pwllygwynt yn fforddio gwaith cyson i'r mŵnwyr am oes neu ddwy o leiaf. Awgrymai y Capten wrth y rhai y digwyddai ymddyddan â hwy ar y pwnc fod "dialedd o gyfoeth " wedi ei adael yn yr hen Waith, ac o dipyn i beth yr oedd y mŵnwyr eu hunain, y rhai oedd wedi bod yn chwilio am flynyddau am y plwm ac wedi methu ei gael, wedi dyfod i gredu yr un peth, ac yn mhen ychydig amser tystiai ambell un o'r hen weithwyr fod yn Mhwllygwynt "blwm fel gwal," yn gorwedd, erbyn hyn, dan y dwr! Edrychid ar Capten Trefor fel merthyr Cwmni Pwllygwynt, ac oni bai fod y mŵnwyr mor dlawd buasent yn gwneud tysteb iddo. Gan nad allent roi mynegiad o'u teimlad yn y ffordd o dysteb, bu raid iddynt foddloni ar felldigo Cwmni Llunden, a rhoi eu goglyd a'u gobaith am y dyfodol yn nhiriondeb, gallu, a dyfeisgarwch Capten Trefor. Chware têg i'r Capten, nid oedd yntau yn fyr