Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth y rhyw hwn am edrych ar ol eu busnes eu hunain— pryderai y boneddigesau hyn a allai diwydrwydd ac ymroad a llwyddiant masnachol Enoc gadw i fynu—am gadw ar y blaen yr oedd hyny yn anmhosibl—â drychfeddyliau Miss Trefor. Ysgydwai ambell i hen ferch anobeithiol ei phen yn arwyddocäol a phrophwydoliaethol, "er nad oedd hi yn dweyd dim, nac yn hidio dim pwy a gymerai Enoc Huws yn wraig iddo." Ni phetrusai ambell fam, gyda thŷaid o ferched anfarchnadol, ddatgan ei meddwl yn groew "ei bod wedi ei siomi yn fawr yn Enoc Huws—ei bod wedi arfer edrych arno fel dyn o farn, ac yn sicr fel dyn oedd yn grefyddol ond mai felly y digwydda yn aml—y rhai oeddid yn meddwl mwyaf o honynt oeddynt yn ein siomi fwyaf. "Dywedid fod rhai o'r mamau hyn hyd yn nod wedi newid eu barn am y tê a werthid gan Enoc, ac yn protestio y byddai raid iddynt "dreio rhyw siop arall."Ond a werthid gan Enoc, serch hyny, ac nid deiliach wedi eu hel o din y gwrychoedd yn China! Yr oedd Enoc wedi gwneud enw iddo ei hun am dê da, ac wedi i'r mamau "dreio rhyw siop arall" a chael allan nad oedd effeithiau y tê lawn mor ddawn gynyrchol, dychwelasant o un i un i Siop y Groes gyda'u ffyddlondeb arferol, er fod eu trwynau fymryn yn fyrach. Gan nad pa faint o wir oedd yn yr ystori fod Enoc a Miss Trefor yn "engaged" tramwyodd y newydd trwy y gymydogaeth gyda'r fath gyflymdra a ddygasai wrid cywilydd i wyneb y gwefrhysbysydd, a chan nad pa faint o gywreingarwch sydd yn y darllenydd am wybodaeth gywir am wir ragolygon Enoc, rhaid i mi am ychydig droi at faterion eraill.