Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awgrymiad digamsyniol y gallai efo pe buasai yn dewis roddi yr holl wybodaeth a ddymunid, ac yna syrthiai i ddistawrwydd doeth, gan dynu mwy o fŵg o'i getyn a throi clust fyddar at bob cais a chwestiwn. Wedi i Bwllygwynt sefyll, deuai ambell i fŵnwr o eithafion y gymydogaeth—fel y daeth brenines Sheba gynt at Solomon—i wrando doethineb Sem, ac er na ddychwelai y mŵnwr gyda yr un argraff ag a adawyd ar feddwl yr hen chwaer Sheba, gwn nad oedd ymwybyddiaeth Sem Llwyd o ddiderfynolrwydd adnoddau ei wybodaeth a'i ddoethineb fymryn yn llai na'r eiddo Selyf.

Yr anedd nesaf i dŷ Sem Llwyd oedd y Twmpath, preswylfod hen gydnabod y darllenydd, sef Thomas Bartley, ac nid wyf yn sicr na theimlai Thomos yn y ffaith hon raddau o'r un peth ag a welais yn chwyddo brest ambell un ddigon diddim yn y Bala, yn yr ymsyniad ei fod yn byw yn yr un dref a chawr y genedl Gymreig. Drwy fod Sem, erbyn hyn, yn segur, nid anfynych yr anrhydeddai efe y Twmpath â'i bresenoldeb. Gallasai gŵr heb fod mor syml a Thomas Bartley briodoli amcanion hunanol i ymweliadau Sem. Yr oedd Thomas, fel y cofia y darllenydd, yn ŵr diddysg, difeddwl-ddrwg, ond hynod gydwybodol a darbodus. Ar yr olwg gyntaf gadawsai argraff ar y dyeithr nad oedd efe "yno i gyd." Ond yr oedd yn Thomas Bartley rhyw fath graffder anymwybodol a diffuantrwydd eglur i bawb a'i hadwaenai. Yr wyf yn meddwl mai ei nodweddion mwyaf arbenig oeddynt cariad at yr hyn oedd syth, union, a theg, a charedigrwydd dibendraw. Mewn gair byr, yr oedd yn Thomas anhebgorion "cymydog." Dichon y buasai penglogydd yn dweyd ar ol ei chwilio mai yr ermig fwyaf amlwg ynddo oedd yr "organ of wonder." Yr hyn oedd yn Thomas a ddeusi allan, ac nid oedd ganddo ddim stoc wrth gefn, fel y tybid fod gan Sem Llwyd. Yn wir, anfynych y gallesid cael dau ŵr mor wahanol, fel y gwelir oddiwrth yr ymddyddan canlynol, yr hwn gymerodd le yn ystod un o'r ymweliadau y cyfeiriwyd atynt. Yr oedd Thomas, pan ddaeth Sera i mewn, newydd orphen rhoi clem ar esgid, ac yn prysur roddi black bull arni, gan wasgu sawdl yr esgid yn erbyn ei gylla, ac yn rhwbio yn egniol nes oedd gwythienau ei dalcen can dewed a bŷs, Gan godi ei ben a chau un llygad, a dal ymyl yr esgid rhyngddo â'r ganwyll, ebe Thomas—

"Wel, Sem, lle buoch chi'n cadw, ddyn? 'Rydw i wedi bod