Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

E"Mi wela," ebe Sem, gan ddarllen yr argraff ar y cauad :—

Presented

to

Thomas Bartley, Esq.,

By his humble admirer,

W. Bryan.

"Pry garw oedd y bachgen hwnw," ebe Thomas, "ys gwn i lle mae 'rwan? Sem, 'rydw i wedi meddwl gofyn i chi gantodd o weithie, ond y mod i'n anghofio—pwy ddusgyfrodd baco? Ddyliwn fod chi'n gwbod, Sem?"

"Indigo Jones," ebe Sem.

"Ai e!" ebe Thomas. "Rhw enw go od hefyd, mae fel bydde 'i haner o'n Gymro. Ai Cymro oedd o, Sem?"

"Ië, debyg," ebe Sem.

"Wel, bendith ar ei ben o, medda' i! Oes gynoch chi rhw aidi', Sem, faint amser sy er hyny? "gofynai Thomas.

"Rhw aidi'?—ddyliwn fod gen i—tua phymtheg cant o flynyndoedd yn ol," ebe Sem.

"Dyn fo'n gwarchod!" ebe Thomas, "a mae cymin a hyny, Sem? Wyddoch chi be, mae ambell i smogen wedi i chael er hyny!"

"Oes, Thomas, i mae. Ië, tuag amser batel Waterlŵ y dusgyfrwyd y baco," ebe Sem.

"Hoswch chi, Sem, ydach chi'n peidio i phonsio ni 'rwan? Ond oedd brawd i nhad ym matel Waterlŵ pan oeddan nhw'u ymladd yn erbyn Boni?"

"Hwyrachrach hyny," ebe Sem, "sôn yr ydw i am y fatel yn erbyn Polion, bymtheg cant o flynyddoedd yn ol."

"Ho, deudwch chi hyny," ebe Thomas, " chlywes i 'rioed sôn am y fatel hono. Pwy aeth â hi, Sem?"

"Y ni, debyg," ebe Sem.

"Ië, ddyliwn," ebe Thomas. "Ond gan ein bod ni efo'r pwnc, ai gwir ydi'r stori, Sem, fod gwas Indigo Jones 'ma, pan welodd o'i fistar yn smocio'r tro cynta', wedi tywlu bwceded ddŵr am i ben o?"

"Mae traddodiad felly'n bod, Thomas," ebe Sem, "ond welis i 'run hanesydd ymddiried yn son am hyny."