Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mi greda hyny'n hawdd," ebe Thomas, "achos pwy fase'n ffasiwn ffwl? Peth arall ydw i isio ofyn i chi, Sem, yn mhw wlad y daru'r Indigo Jones 'ma ddusgyfro'r baco?—ddyliwn mai yn rhai o'r gwledydd tramor ene?"

"Ie, Thomas, yn Bristol," ebe Sem.

"Ho, felly," ebe Thomas, "dene sut mae cymin o sôn am faco Bristol, ond dydw i'n hidio fawr am dano fo—well gen' i fy hun faco Caer, ond pawb at i ffansi, fel y deydodd y dyn wrth roi cusan i'r gaseg. Ond dene ddigon ar nene. Y gwaetha arna i ydi ar ol i mi gael gwybodaeth i sicrwydd ar bethe fel hyn, y mod i'n 'u anghofio nhw'n union. Ond deydwch i mi, —mae o'n taro i meddwl i—oedd ene ddim rhw saer maen go glyfar es talwm o'r enw Indigo Jones, ddaru neud tŵr Llunden, Pont Llanrwst, Castell Rhuddlan, Castell Carnarvon, a lot o bethe fel ene, mae rhw aco gen' i glywed am ddyn tebyg arw i'r Indigo Jones 'ma?"

"Mae'r pethe ydach chi'n sôn am danyn nhw, Thomas," ebe Sem, "wedi'u gneud cyn y cyfnod Cristionogol—o dan yr hen oruchwyliaeth—rai miloedd o flynyddoedd cyn i Indigo Jones gael ei eni, ac felly 'does dim sail i gredu yr hanes."

"Gwarchod pawb!" ebe Thomas, "ac fel y clywch chi bobol yn siarad sy' ddim yn sgolors, nac yn gwbod dim am hanesyddiaeth! Ond dowch i ni ddwad yn nês gartre, Sem, achos yr ydw i wedi sylwi pan aiff pobol i sôn am bethe sy cyn co' dyn nad ydyn nhw ddim yn byticlar yn ôl am rhw fil neu ddwy o flynyddoedd. Deydwch i mi oes ene rw sein i Bwllygwynt ene ailgychwyn?"

"Dim, Thomas, cyn belled ag y gwn i, ac yr ydw i'n gwbod cymin a neb ar y pen ene," ebe Sem.

"Nag oes, ddyliwn," ebe Thomas, "y syndod ydi fod o wedi dal cyd. Wyddoch chi be, Sem, mae'n rhaid fod yr hen Waith ene wedi costio dialedd o arian i rwfun, a mi wranta fod lot o honyn nhw, erbyn hyn, yn rhegi 'u manars yn braf ac yn barod i dywlu'r hen Drefor i lawr y shafft, achos mi gymra fy llw mai fo sy wedi 'u boddro nhw."

"I boddro nhw, Thomas? be'dach chi'n feddwl? Bydase'r Capten wedi cael i ffordd ei hun—a fy ffordd ine hefyd, o ran hyny—mi fase Pwllygwynt yn talu'n iawn, achos y mae yno wlad o blwm, bydase nhw'n myn'd ato yn y ffordd iawn," ebe Sem.