Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gwlad o blwm, Sem? Peidiwch a siarad nonsens, ddyn glân. Os oes yno wlad o blwm, p'am na fasech chi'n dod a thipyn o hono fo i'r lan? Wyddoch chi be, Sem, dydw i ddim yn meddwl fod lot o bobol mwy twyllodrus na meinars ar chwyneb y ddaear. Weles i 'rioed waith mein na ddeyde'r meinare fod yno wlad o blwm, ond fod nhw heb fyn'd ato, ne' fod y dw'r yn 'u rhwstro nhw, ne' rhw godyl fel ene. Ac os bydd Gwaith wedi stopio, mi fydd y bai ar bawb blaw nhw 'u hunen, fforswth. Wyddoch chi be, Sem, mi fydd gynoch chi'r meinars 'ma aped mawr i'w roi rhw ddiwrnod. A 'rydw i'n credu yn y nghalon fod yr hen Drefor ene, er i fod o'n aelod efo ni, waethed sort a 'run a welis i, ond i fod dipyn yn respectol. Creuddwch at y bwyd, Sem."

"Pob parch i chi yn y'ch tŷ'ch hun, Thomas," ebe Sem, "ond wyddoch chi fawr am waith mein. Hwyrach y synwch chi, Thomas, pan ddeyda i fod meinars yn amal yn gwbod i sicrwydd fod digon o blwm yn y fan a'r fan, ond na fedra nhw ddim myn'd ato, ac yn amal er y gwyddan nhw y gallan nhw fyn'd ato, na chan nhw mo'u ffordd eu hunen i fyn'd ato gan rwrai eraill sy'n 'u rheoli nhw, a'r rhai hyny yn amal na wyddan nhw ddim mwy na chithe am waith mein. A chyda golwg ar Capten Trefor mi ddeyda hyn: na welis i neb erioed —a'rydw i wedi gwel'd liawer—y sydd gystal meistr ar i waith. Fe wyr i'r dim sut i weithio gwaith mein, pe cai o'i ffordd ei hun, a mae'r Capten a fine bob amser o'r un meddwl."

"Mae'n well gen' i," ebe Thomas, "i chi fod o'r un meddwl a fo, na fi. Rhyngoch chi a fi, leicies i 'rioed mo'r dyn. Nath o 'rioed ddim byd i mi, ond edrach dipyn yn sgoiwedd arna i, ond dda gen' i mo'no, waeth gen' i bydae 'i ddwy glust o'n clywed. Rhw ŵr boneddig heb 'run stâd ydw i'n i wel'd o. Mi weles ambell un o'i sort yn f'oes—dynion yn myn'd ar gefu'u ceffylau ar gost y cwmpeini, ac yn dwad i'w clogs yn y diwedd. Peth arall, leicies i 'rioed mo'r dyn yn y capel; mae o'n dwad yno fel bydae o'n gueud ffafar i'r Brenin mawr, ac, fel bydae, y tore'r Brenin mawr i fynu bydae o'n cadw oddno. Dda gen' i mo'r sort, Sem. Mae isio i ni gyd fod 'run fath yn y capel, a phawb i'w le ar ol myn'd allan. A pha'm na weddïe'r dyn? dyn gwbodus a thafodog fel fo? Ond welis i 'rioed mo'r dyn ar 'i linie, a mae hyny yn ddigon o briff gen' i fod rhwbeth y mater efo cydwybod y dyn, achos dydio ddim yn nerfws, mi ŵyr pawb