Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd raid i Rhys Lewis deimlo dim oddiwrthynt na'n cyffelyb. Yn un peth, yr oedd Rhys Lewis wedi marw cyn i'r Hunangofion d dyfod yn eiddo i'r cyhoedd, ac y mae y natur ddynol yn dringar iawn wrth y marw, Ond yr ydwyf fi yn fyw, hyd. yn hyn, fodd bynag, ac nis gall y byw ddisgwyl am lawer o dynerwch. A dyma un o'r pethau sydd yn gwahaniaethu dyn oddiwrth yr anifail—ni ddychymygir am flingo anifail nes iddo farw; ond gyda dyn (fel awdwr) y cwestiwn cyntaf a ofynir, "A ydio'n fyw?" ac os ceir atebiad cadarnhaol, y cwrs nesaf a fydd, "Wel, gadewch i ni ei flingo, a gwerthu ei groen i dalu i'r adolygydd," Yr oeddwn ar fedr enwi amryw anfanteision eraill, "Ond ni chwanegaf," ys dywedai yr hen John Jones, Rhyl, wrth orphen pob pregeth,

Mae yn rhaid i mi ofyn un ffafr gan fy narllenwyr, os anrhydeddir fi â'r cyfryw; ac yr wyf yn ymwybodol ei fod yn. gryn beth i'w ofyn, Hyny ydyw—fod iddynt dderbyn pob peth â adroddaf fel ffeithiau diamheuol—hyny ydyw, efo, pob peth nad ydyw yn dyfod o fewn terfynau eu gallu a'u profiad hwy i'w wrthddywedyd, ac, yn wir, llawer o bethau ereill ag y bydd yn naturiol iddynt ymofyn pa fodd yr oedd yn bosibli mi ddyfod yn wybyddus o honynt. Er engraifft—os byddaf fel y mae yn ddiamheu y byddaf yn adrodd meddyliau hwn neu arall pan ar ei ben ei hun—meddyliau na hysbysodd efe i neb byw, naturiol a fydd i'r darllenydd ymofyn, pa fodd y daethym i yn hysbys o honynt? Anwyl ddarllenydd, y dirgelwch hwn sydd fawr; na flina, ymarfer ychydig ffydd, a rhoddaf nau fy ngair na adroddaf ddim nad allaf sefyll ato, os bydd raid.

Pobl Bethel a ddygir i sylw yn yr hanes hwn, ac er nad wyf. yn bwriadu myn'd dros yr un tir ag a gerddodd Rhys Lewis, bydd raid i mi yn achlysurol gyfeirio yn gynil at rai o'r cymeriadau sydd eisoes yn adnabyddus i'r darllenydd,—megis 'Tomos Bartley, Wil Bryan, &c. Ni bydd y gwaith hwn yn dwyn gwedd mor grefyddol a'r Hunangofiant, bydd a wnelo â chymeriadau, gan mwyaf, nad oeddynt-yn hynod am eu crefyddolder. Rhaid imi roddi credyd i Rhys Lewis am gywirdeb ei hanes can belled ag y mae yn myned, ac hefyd i onestrwydd. yr awdwr, yn enwedig yn y rhanau hyny sydd yn dadguddio rhyw bethau ynglŷn â'i deulu nad ydynt, a dweyd y lleiaf, yn adlewyrchu dim anrhydedd arno—pethau na fuasai ei gyfeillion