Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dychymygu sôn am danynt. A gadael heibio ei waith yn manylu ar ddrygioni ei dad a'i ewythr, a ddarfu i'r darllenydd sylweddoli y gwroldeb oedd yn angenrheidiol i sôn am ddygn dlodi ei fam ? Edryched y darllenydd o'i gwmpas ac ymofyned. pa nifer o'i gydnabod ag sydd wedi codi dipyn yn y byd, a. soniant o'u gwirfodd am dlodi eu rhien? am yr adeg yr oeddynt yn byw ar botes maip? Onid yr ymdrech feunyddiol ydyw annghofio'r pethau sydd o'r tu ol? Pa swm o arian a. roddai Mr, Daldygŵd—yr hwn sydd wedi llwyddo yn y byd, a nel llawer o gyfoeth, a thrwy ddiwydrwydd a thalent sydd yn llenwi swyddau uchel, ac yn troi mewn cylchoedd parchus—pe gallai ddileu hanes ei febyd o gôf ei gymydogion, a phe gallai fod yn sicr nad ydyw yr hen ŵr sydd yn rhoi ei law wrth ei het iddo yn cofio mai crydd oedd ei dad, ac mai gwerthu pop oedd ei wraig cyn iddo ef, Mr. Daldygŵd, ei phriodi? Fel y mae yn. cael ei boeni wrth gyfarfod yr hen wreigan,—yr hon, erbyn. hyn, sydd yn plygu yn ei garau iddo—wrth gofio am ambell frechdan a gafodd efe ganddi pan oedd golwg eisieu bwyd ar ei wyneb? Pa ryfedd ei fod yn llawenhau wrth glywed am hen bobl yn marw! Mae Mr. Daldygŵd yn awr yn cymdeithasu â phobl barchedig, a bydd rhai o honynt weithiau, yn hoffi sôn am eu "Teulu"--pwnc nad ydyw byth yn colli ei ddyddordeb gyda rhyw bobl—a bydd yntau, Mr. Daldygŵd, druan, yn poethi ac yn chwysu ac yn gorfod defnyddio hyny o dalent a. Fedd i droi y stori at rywbeth arall; oblegid nis gall ef sôn am ei "deulu," oddieithr iddo wneud hyny mewn ffurf o ymosodiad ar annghyfiawnder Bwrdd y Gwarcheidwaid pan y darfu iddynt dori "pau" ei fam o haner coron i ddeunaw ceiniog yr wythnos! Ond nis gaIl efe wneud hyd y nod hyny gyda chysondeb, canys y mae yntau, erbyn hyn, yn guardian ac yn. euog o ymddygiad cyffelyb at wrageddos tlodion. Ond ped ymddygai pob guardian fel Mr. Daliygŵd byddai llai o faich. ar y trethdalwyr, oblegid y mae wedi rhoi gorchymyn i'w frawd, yr hwn sydd yn byw mewn tref arall, er dim i beidio pwyso ar y plwyf. A phan enfyn y brawd o i fod yn bwriadu dyfod i ymweled âg ef, y mae yntau, Mr. Daldygŵd yn anfon. iddo post-office order am ddeg swllt, gyda. rhybudd iddo aros gartref. Mae Mrs. Daldygŵd a'r merched yn cytuno âg ef yn hyn, ac y mae arnynt arswyd gweled yr horrid uncle! Garddwr, wrth ei gelfyddyd, ydyw yr uncle, ac yn ei gartref perchir