Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef fel gŵr da a duwiol, ond o herwydd ei fod wedi dioddef yn dost gan y crydcymalau y mae yn analluog i weithio, ac y mae yn dlawd, ac o herwydd ei dlodi y mae gan ei frawd a'i chwaer- yn-nghyfraith a'i nithoedd gywilydd o hono| Y ffyliaid! Onid ydynt yn cofio mai garddwr oedd ein "Tad ni oll?" ac nad oedd ganddo ef na'i wraig, y dyddiau goreu fu dros eu penau, gerpyn am eu cefnau?—yr hyn, yn ddiamheu, a ddygodd ar eu hiliogaeth y gymalwst, ac oddiwrth yr hwn anhwyldeb y mae brawd Mr. Daldygŵd yn dioddef mor enbyd! Ond dynn fel y mae y byd yn myn'd —mae arnom gywilydd o'r graig y naddwyd ni allan o honi, a'r ffôs y cloddiwyd ni o honi, Mae yn ffaith mai mwy dewisol gan rywmi ydyw i'w tad enwog fod heb yr un bywgraffiad yn hytrach nag i dlodi eu hynafiaid gael ei roi ar gôf a chadw. Er y gwyddant yn burion na ddynoethai y bywgraffydd fwy nag a fyddai wir angenrheidiol, ac y byddai iddo dyneru ei frawddegau—megys, yn. lle dyweyd fel hyn—" Yr oedd rhieni ein gwrthddrych y pryd hwn yn cadw siop fincac a bara gwyn, a mynych y byddai raid iddo yntau, pan na byddai yn cario bara gwyn hyd y wlad, fyn'd i'r mynydd i dori mawn, a gwneud ei ran mewn amryw. ffyrdd i gael y ddeupen yn nghyd —yn lle dweyd fel yna, y byddai i'r bywgraffydd ddweyd—"Êr nad oedd rhieni ein gwron, yr adeg yr ydym yn cyfeirio ati, mewn sefyllfa uchel na chyfoethog iawn, eto yr oeddynt yn bobl barchus, onest, ac yn talu eu ffordd, ac yn feddianol ar nodweddion daionus eraill, y rhai a amlygwyd i raddau helaeth yn eu mab enwog, yr hwn yr ydym yn awr yn ceisio ysgrifenu ei hanes." Gwyddant o'r goreu mai yn y dull yna y cyfeirid at yr amgylchiadau anhyfryd, ond ni wna y tro!. Tybiant mai ychydig o bobl a wyddant am dlodi eu hynafiaid, a'u bod yn myn'd leilai bob dydd. Maent yn byw yn mharadwys ffyliaid, ac o'm rhan i, mawr fwyniant iddynt!

Amlwg yw na pherthynai Rhys Lewis i'r dosbarth ffol-falch yna. Mae'n wir na ddarfu iddo ef ymgyfoethogi, ac na feddai erw o'i eiddo ei hun. Ond gwnaeth rywbeth gwell—drwy ei ddiwydrwydd, dyrchafodd ei hun i sefyllfa barchus gweinidog cymwys y Testament Newydd. Ac ni phetrusai efe, pan fyddai hyny o wasanaeth iddo, gyfeirio at dinodedd a thlodi ei febyd. Cofus genyf ei fod un tro, yn y Seiat, yn ymddyddan. â'r hen Feti Williams—gwreigan dlawd anghenus—yr hon a