Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwynai ei bod yn anniolchgar iawn, a'i bod yn ei gael yn beth anhawdd bod yn foddlawn a diolchgar pan yn amddifad o bethau gwir angenrheidiol. Ac ebe Rhys—"Digon gwir, Beti 'Williams, anhawdd iawn ydyw bod yn ddiolchgar pan fydd y cwpwrdd yn wâg. Ac yr ydach chi'n gneyd i mi gofio am sylw o eiddo fy mam, pan oeddym heb damaid o fwyd yn y tŷ na golwg am ddim i ddyfod," ebe hi—"Wel, fy machgen, dydio gamp yn y byd bod yn ddiolchgar mewn llawnder, ar ben ein digon; y gamp ydi gallu diolch ein bod yn rhoi mwy o bris ar fara'r bywyd nag ar y bara naturiol, ac un peth sydd angenrheidiol ac mor werthfawr i mi ydi dirgel obeithio fod Mari Lewis wedi dewis y rhan dda, yr hon n ddygir oddiarni." Ni cheisiai Rhys Lewis gelu dim o aml gyfyngderau ei ieuenctyd, o herwydd, chwedi Wil Bryan, "nad oedd dim humbug ynddo."

Mae Rhys Lewis yn gwneud y sylw hwn yn rhywle—mai da iddo ef a fuesai pe nas cwrddasai erioed â Wil Bryan. Gyda phob dyledus barch, ni wnaeth Rhys Lewis fwy o gamgymriad yn ei fywyd. Bendith fawr iddo fu ei gyssylltiad â Wil. Os oedd rhyw nodwedd mwy amlwg na'i gilydd yn Rhys Lewis fel pregethwr, ei naturioldeb oedd hwnw, ac yr wyf yn credu maii Wil Bryan yr oedd efe yn ddyledus am dano. Pa fath un a fuasai Rhys Lewis pe na buasai erioed. wedi cyfarfod Wil? Wel, bachgen mawr, da, diniwed a fuasai—bachgen ei fam. Dichon y buasai yn ol gyfansoddiad fwy o siwgr, ond yn sicr buasai ynddo lai o haiarn—mwy o starch, ond llai o nerth; mwy o hygoeledd, ond llai o ffydd a chraffter, Ond fel yr oedd yr oedd yn naturiol a chymeradwy, ac i Wil yr oedd yn ddyledus am y nodwedd annghyffredin hon. "Annghyffredin" a ddywedaie? Iâ, nid wyf yn galw y gair yn ol. Nid wyf philistiad; ac ni roddaf y goreu i un dyn byw am barch i bregethwyr Cymreig, ond ni all hyn fy atal rhag dweyd mai hwy, fel dobarth—mae eithriadau lawer, mi wn—ydynt y llefarwyr mwyaf annaturiol y gwn am danynt. Pa reswm neu ysgrythyr sydd dros i bregethwr, mwy na rhyw siaradwr cyhoeddus arall, lefaru am y chwarter awr cyntaf o'r bregeth yn annghlywedig, yna dechreu canu, ac yn y man rafio, a chyn y diwedd beri i un ofni iddo dori blood vessel. Prin y gallaf gredu mai. cymdeithas gwastadol y pregethwr â'r goruwch naturiol a barodd iddo fabwysiadu arddull mor annaturiol, Gan nad pe