Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD I

CYMRU LAN

MAB llwyn a pherth oedd Enoc Huws, ond nid yn Sir Fôn y ganwyd ef. Yr oedd mangre ei enedigaeth yn agosach i Loegr, a'r trigolion yn siarad meinach Cymraeg, ac yn fwy diwylliedig a chaboledig yn eu tyb eu hunain , er nad oeddynt yn fwy crefyddol. Ni chanwyd y clychau ar ei enedigaeth, ac ni welid ac ni chlywid dim arwyddion o lawenydd o unrhyw natur. Ni ddarfu i hyd yn nod y ffaith mai bachgen ac nid geneth ydoedd enyn gymaint a gwen ar wyneb un o'r perthynasau pan hysbyswyd hwynt am ei ddyfodiad i'r byd . Yn wir, myntumiai rhai o'r cymydogion fod can lleied o ddyddordeb yn cael ei deimlo ynddo, fel na wyddid, am rai dyddiau, i ba ryw y perthynai, ac mai yn ddamweiniol hollol y daeth y peth i'r golwg, a hyny drwy ddiofalwch Enoc ei hun. Y rheswm am yr holl ddifrawder hwn yn nghylch y newydd —ddyfodiad oedd—nad oedd neb yn ei ddisgwyl, nac eisieu ei weled. Mi a ddywedais ormod: yr oedd un yn ei ddisgwyl. Pa nifer o nosweithiau digwsg—pa faint o ofid, o gyni ac arteithiau meddwl— pa faint o edifeirwch chwerw a gwirioneddol, ac o hunanffieiddiad, a ymylai ar wallgofrwydd, a gostiodd y disgwyliad hwnw, Duw yn unig a wyr! Mi a w ei fod yn bwnc tyner a llednais i'w grybwyll — mi a wn mai mwy hyfryd i'r teimlad yw gwrando ar leisiwr da yn canu, "Cymru Lân , gwlad y gân," a rhoi encore iddo, ac iddo yntau drachefn roddi i ni " Hen wlad y menyg gwynion." Ond ynfytyn a fyddai y dyn a dybiai ei fod wedi cael holl hanes Cymru yn y ddwy gân. Mae yn gofus genyf, pan oeddwn hogyn, y byddai y gŵr duwiol hwnw , Abel Huws, pan fyddai yn yr hwyl yn y capel, yn cau ei lygaid, yn enwedig pan fyddai yn canu, ac i mi fyn'd i gredu fod cau y llygaid yr arwydd sicr o dduwioldeb. Yr wyf wedi newid fy meddwl. Nid ydyw cau y llygaid yn un arwydd o sancteiddrwydd. A. rhoi chwareu teg i Abel Huws, ni fyddai yntau yn cau ei l gaid ond pan fyddai yn yr hwyl. Yr oedd efe mor lygadog a neb, ac yn galw pethau wrth eu