Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

henwau priodol. A phe buasai efe fyw yn awr diau y buasai yn cael ei ystyried yn ddyn bras. Sicr yw fod Abel Huws, fel yr hen dadau yn gyffredin, dipyn yn rhy blaen yn ei siarad; ond y mae yn ofnus mai ein perygl ni, yn y dyddiau hyn, ydyw mursendod a gor—ledneisrwydd—peidio galw pethau wrth eu henwau Cymreig, os nad peidio eu henwi o gwbl. A ydyw y pethau wedi peidio a bod? Neu a ydym wedi cael rhyw oleuni newydd arnynt? A oes y fath le ag uffern yn bod yn y dyddiau hyn? Arferid sôn am le felly er's talwm, ond anfynych y clywir crybwylliad am y fath le yrwan, oddigerth gen ambell un go hen ffasiwn. A oes y fath beth ag anniweirdeb? Byddwn yn clywed weithiau am "achos anhyfryd." Ond diau. fod y byd yn dyfod yn foneddigeiddiach, ac fod eisiau cymeryd gofal sut i siarai âg ef.

Nid oedd, fel y dywedwyd, ond un yn disgwyl am Enoc. i'r byd, ac nid oedd ar neb ei eisieu yn y byd. Edrychid arno fel intruder Ni wyddai Enoc, druan, mo hyny, a phe gwybuasi y buasai ei ymddangosiad yn creu y fath gynwrf, yn achosi y fath anghysuron a theimladau chwerw, mae yn amheus ai ni fuasai efe yn cyflawni hunan- laddiad yn hytrach na gwynebu y fath fyd annghroesawgar! Ond ei wynebu wnaeth Enoc yn hollol ddiniwed a diamddiffyn. Tystiai y meddyg fod Enoc yn un o'r bechgyn brafiaf a welodd efe erioed, ac nad oedd ond un anmherffeithrwydd ynddo, sef oedd hwnw—fod tri o fysedd ei droed chwith yn glynu yn eu. gilydd, fel troed hwyaden. A oedd hyn yn rhagarwyddo y byddai Enoc yn nofiwr da, ni cheisiai y meddyg benderfynu. Ond nid oedd hyny nac yma nac acw. Cyn bod Enoc yn fis oed—pe buasai yn ddigon synwyrol, a phe na buasai yn cysgu yn hapus wrth ochr ei fam—gallasai fod yn llygad—dyst o olygfa na buasai byth yn ei annghofio, Yr oedd yr ystafell wely yn eang a chomfforddus, yr hyn a ddynodai fod ei pherchenog mewn amgylchiadau uwch na chyffredin. Nos Sadwrn. ydoedd, o ran amser, neu yn hytrach bore Sul, oblegid yr oedd. y cIoc newydd daro haner y nos. Yr oedd y meddyg newydd. adael yr ystafell gan fwriadu dychwelyd yn fuan gyda rhyw feddyglyn i gynorthwyo mam Enoc i groesi yr afon, neu mewn. gairiau ereill, i farw. Cyn gadael y tŷ dywedasai y meddyg wrth ei thad, yr hwn oedd ŵr uchelfalch—"Mi ddof yn ol yn mhen ychydig fynudau, Mr. Davies, ond y mae arnaf ofn na—