Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Am rai munydau parhaodd Elin i edrych i fynu, yna. dywedodd yn hyglyw—

"Yr ydw i'n dwad yrwan, mam, yrwan."

Ar ol un dirdyniad, un ochenaid hir, ehedodd ei hysbryd ymaith.

"Mae hi wedi myn'd," ebe'r meddyg yn ddystaw, ac ar yr un pryd gafaelodd yn mraich Mr. Davies ac arweiniodd ef i lawr y grisiau. Da gan y meddyg oedd cael cyrhaedd y gwaelod yn ddiogel, oblegid pwysai Mr. Davies arno yn drwm. Yr oedd gofid y tad yn arteithiol, a phan syrthiodd yn swrth i'r gadair, gwasgodd ei ben rhwng ei ddwylaw, a dolefodd yn uchel—

"O Elin! Elin! fy anwyl Elin!"

Yn ebrwydd neidiodd ar ei draed yn gynhyrfus, a tharawodd y bwrdd amryw weithiau, nes oedd y gwaed yn pistyllio o'i ddwrn; ac, fel pe buasai yn anerch y bwrdd, dywedodd, yn ffyrnig—

"Enoc Huws! os nad wyt eisoes yn uffern, bydded i felldith Duw dy ddilyn bob cam o dy fywyd!"

Ail—adroddodd y geiriau ffol amryw weithiau, Arhosodd y meddyg gydag ef nes iddo ymdawelu. Nid oedd Mr. Davies, o ran oedran, ond cydmarol ieuano—prin ddeugain mlwydd oed, Edrychid arno yn y dref lle y trigai fel un mewn amgylchiadau cysurus, a pherchid ef yn fawr. Yr oedd ei ferch Elin, cyn yr amgylchiad a grybwyllwyd, yn ffafryn hyd yn nod gan ei chydryw, yr hyn sydd yn "ddweyd mawr," Bu. ei chwymp yn ergyd i ugeiniau o'i chyfeillesau a'i chydnabod, ac ni arwyddodd neb, hyd y gwyddis, foddhad yn ei gwarth. " Nid felly, ysywaeth, y digwydda bob amser; ac o bob peth. dirmygus, dyna y peth mwyaf dirmygus, fod neb yn ymfalchio yn afwydd ei gydnabod. Yr oedd y cydymdeimlad â Mr. Davies yn ei brofedigaeth chwerw, yn ddwfn a chywir, a'r amlygiad o hono yn ddibrin. Ond ni chododd efe byth mo'i ben. Yr oedd y saeth wedi myned yn syth i'w galon, ac nid. allai neb ei thynu oddiyno, Gwerthodd ei holl feddianau a'i dda; a'r gŵr olaf o'i hen gymydogion y bu Mr. Davies yn siarad âg ef oedd Dafydd Jones, y dyn a fyddai yn arfer tori lythyrenau ar geryg beddau.