Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dafydd Jones," ebe fe, "rhowch y geiriau yma ar y gareg sydd uwchben fy ngwraig—na hidiwch am yr oed a'r date

Hefyd

ELIN DAVIES,

'Piser a dorwyd gerllaw y ffynon.' "

Ac heb gymaint a chanu'n iach â'i gyfeillion, gadawodd Mr, Davies y wlad.

PENNOD II.

GWEITHDY'R UNDEB.

AR farwolaeth ei fam gosodwyd Enoc dan ofal Mrs, Amos, un. o'r maethwragedd y cyfeiriwyd atynt yn barod, a dywedid i Mr. Davies roddi swm mawr o arian i'r wreigan hon am gymeryd Enoc "allan o'i olwg ac edrych ar ei ol." Am rai dyddiau ofnid am fywyd Enoc, a churiodd ei gnawd yn dost. Yr oedd yn ymddangos nad oedd yfed llefrith gwahanol wartheg trwy beipen India Rubber yn cyfarfod â chwaeth nac yn dygymod â chyfansoddiad ystumog Enoc. Ac er na phryderai neb am hyny, meddyliwyd fod y plentyn ar fedr cychwyn i'r un wlad ag yr aethai ei fam iddi. Yr unig beth a achosai dipyn o flinder i Mrs, Amos am y tebygolrwydd y byddai Enoc farw, oedd y ffaith ei fod heb ei fedyddio. Buasai iddo farw heb ei fedyddio yn drychineb ofnadwy yn ngolwg Mrs. Amos. Ac yn fawr ei ffwdan hi a aeth at weinidog y Methodistiaid, yn eglwys yr hwn y buasai mam Enoc yn aelod. Yr oedd y gŵr hwnw newydd orphen ei swper, a newydd roi tân ar ei bibell. Derbyniad oer a garw a roddodd. Efe i Mrs. Amos. Gwrthododd yn bendant symud o'i dŷ, ac ymgroesodd wrth feddwl am gyffwrdd â'r fath lwmp o lygredigaeth ag Enoc. Yna dychwelodd at ei bibell, yr hon oedd agos can ddued ag Enoc, ac aeth Mrs. Amos ymaith gan sibrwd, "Bydase Mr. Davies heb fyn'd i ffwrdd, fasa fo fawr o wrthod, mi gwaranta fo," a rhoddodd iddo ei bendith, yn ol ei dull hi o fendithio, Ond ni wyddai Mrs. Amos ddim am y Cyffes Ffydd