Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth at y relieving officer, a rhoddodd ar ddeall i'r swyddog hwnw mewn eithaf Cymraeg, nad oedd hi am gadw plant pobl eraill ddim yn mwy-nad allai fforddio gwneud hyny, ac er ei fod yn ddrwg ganddi ymadael â'r plentyn, oblegid, meddai, yr oedd efe erbyn hyn, yn ddigon cocsin, eto nid oedd dim arall i'w wneud. Yr oedd hi wedi disgwyl a disgwyl clywed rhyw beth oddiwrth Mr. Davies, ac nid allai aros i ddisgwyl dim yn hwy. Os elai hi allan am haner diwrnod i olchi, yr oedd yn rhaid rhoi hyn a hyn o lodom i Enoc i wneud iddo gysgu, ac yr oedd hyny yn costio prês. Ac am dad y plentyn , wel, yr oedd hwnw wedi rhedeg y wlad cyn i Enoc gael ei eni, y syrffed. Wedi llawer o siarad a llawer o oedi, a myn'd o flaen y Board of Guardians, a chant o bethau, llwyddodd Mrs. Amos o'r diwedd i gael Enoc oddiar ei dwylaw, a'i drosglwyddo yn ddyogel i ofal y workhouse.

Pallai amynedd y darllenydd, mae arnaf ofn, pe dilynid hanes Enoc tra bu efe yn y tlotty, ac nid ydyw hyny yn angenrheidiol i'r hanes hwn. Sicr yw iddo fod yno nes cyrhaedd tair ar ddeg oed, pryd y bu raid iddo droi allan i enill ei damaid, ac y dodwyd ef dan ofal grocer mewn tref gyfagos. Yr oedd yn ymddangos, pan ddaeth Enoc Huws o'r tlotty, ei fod wedi cael addysg led dda mewn darllen, ysgrifenu a "chowntio; a phe coeliasid ei fochau, ei fod wedi cael ymborth iachus hefyd. Yr oedd ei gorph yn fain a theneu, a'i wyneb yn fawr a glasgoch, y tebycaf dim a welwyd erioed i wnionyn â'i wraidd i fynu. Pa ddyfais sydd gan awdurdodau y tlotty i fagu bochgernau? Mi glywais mai y cynllun a arferir ganddynt ydyw hwn: Wedi i'r bechgyn fwyta eu powliad sgili— yr hwn ydyw uwd mewn darfodedigaeth, arweinir hwynt i'r buarth, a gosodir hwynt yn rhes â'u gwynebau at y mûr. Yna, gorchymynir iddynt sefyll ar eu penau am yr hwyaf, a'r hwn a enilla fwyaf o farciau yn ystod y flwyddyn, a gaiff blatied extra o blwm pwain ddydd Nadolig—yr unig ddiwrnod y gwneir pwdin yn y tlotty — hyny ydyw i'r tlodion. Fe welir ar unwaith mai effaith naturiol yr ymarferiad hwn ydyw peri i faeth y sgili (yr hwn faeth, medd meddygon, ydyw y nesaf o ran ansawdd i ddwfr glân) redeg i'r bochau a'u chwyddo allan , gan adael i ranau ereill y corph gymeryd eu siawns. Os bydd rhai o'r bechgyn yn digwydd bod dipyn yn afrosgo, neu ynte fod ganddynt gûr yn eu penau, ac o herwydd hyny yn methu