Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

myn'd drwy yr ymarferiad hwn, rhoddir iddynt glowten ar y foch yma heddyw, ac ar y foch arall yfory, a thrwy barhau yr oruchwyliaeth, dygir oddiamgylch yr un canlyniad dymunol, sef bochgernau chwyddedig, yr hyn a argyhoedda bob guardian rhesymol fod y bechgyn yn cael digon o fwyd maethlon. Gan nad ydyw y cynllun hwn — o herwydd rhesymau penodol—yn ymarferadwy gyda'r genethod, mabwysiadir un arall, dipyn fwy costus, a'r hwn a gedwir yn secret.

Pa fodd bynag, dyna oedd yr olwg oedd ar Enoc pan adaeth efe allan o'r tlotty. Yr oedd ei wyneb yn fawr a chrwn, fel llawn lloned, neu yn ol cynllun cais cyntaf hogyn i dynu llun dyn ar ei lechan. Yr oedd yr olwg arno yn peri i un feddwl am uwd—gwyneb uwd —pen i ddal uwd — edrychiad syndrwm uwd, mewu gair deallai plant y dref ar unwaith mai " bachgen y workhouse" oedd Enoc. Llwyddasai y tlotty i berffeithrwydd i osod ei nôd a'i argraff ar ben a gwyneb Enoc, ond methodd yn lân a newid natur ei feddwl. Yr oedd Enoc yn perthyn i ystoc rhy dda i'r tlotty allu gwneud niwed i'w ymenydd. Yn ffortunus iddo ef, yr oedd ei feistr newydd yn wr synwyrol a charedig, a thoc y gwelodd yn Enoc ddefnydd bachgen medrus. Gydag ymborth sylweddol, caredigrwydd, ac hyfforddiant, dechreuodd Enoc yn fuan golli ei fochau chwyddedig a magu corph a choesau. Pan ymdeimlodd fod ganddo ryddid i adael i'w wallt dyfu yn ddigon o hyd i allu rhoi crib ynddo, dechreuodd ymdwtio, a gwisgodd ei lygaid fwy o fywiogrwydd a sylwgarwch. Mor gyflym oedd y cyfnewidiad ynddo, fel, yn mhon chwe' mis, pan ddaeth un o'r guardians i ymorol a oedd Enoc yn cael chware teg, mai prin yr oedd efe yn ei adnabod. Yr oedd y bochgernau chwyddedig wedi curio cymaint, a'u glesni wedi eu gadael mor llwyr, nes peri i'r guardian feddwl nad oedd Enoc yn cael digon o fwyd, a gofyn odd yn ffrom i'w feistr

"Mr. Bithel, lle mae bochau y bachgen wedi myn'd?"

"I'w goesau, syr, a rhanau ereill ei gorph. Er pan welsoch chwi Enoc o'r blaen, y mae yma redistribution of seats wedi cymeryd lle, a mi af fi i'r tŷ, syr, tra byddwch chwi yn holi Enoc a ydyw yn cael chwareu teg," ebe Mr. Bithel.

Wedi holi a stilio cafodd y gwarcheidwad ei lwyr foddloni nad oedd Enoc yn cael cam, ond prin y gallai efe gredu nad oedd ganddo fymryn o hiraeth am y workhouse, yr hwn oedd y lle dedwyddaf ar y ddaear, yn nhyb y gwarcheidwad.