Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y nifer mwyaf o honynt, ac nid ei chynorthwyo hi. Ond yn Enoc Huws daeth o hyd i lanc gonest, medrus ac ymdrechgar. Toc y rhoddodd Enoc wedd newydd ar y siop, a bywyd newydd yn y fasnach. Digwyddodd hyn yn yr adeg pan oedd Hugh Bryan yn dechreu myn'd i lawr yr allt. Er nad ydyw Rhys Lewis yn sôn dim am hyny yn ei Hunangofiant, yr wyf yn lled siwr fod a wnelo dyfodiad Enoc Huws i Siop y Groes gryn lawer â chyflymu methiant "yr hen Hugh," fel y galwai ei fab ef. Gan ddisgwyl cael "y plwm mawr" oedd o hyd mewn addewid, yr oedd Hugh Bryan, er's blynyddoedd, wedi bod yn cario ei arian i waith mwyn Pwllygwynt, neu, fel y drwedai Wil, "yn specilatio." Wedi gwario cymaint o arian, a thra yr oedd Capten Trefor yn dal i ddweud eu bod yn mron d'od o hyd i'r plwm, yr oedd Hugh Bryan yn anfoddlawn iawn i roddi ei gyfran yn y gwaith i fynu, yn gymaint felly, fel ar ol cario ei arian ei hun yno, y dechreuodd efe gario arian pobl ereill.

Dan yr amgylchiadau, yr oedd ei siop yn dioddef yn enbyd, a'r diwedd fu, fel y proffwydasai Wil Bryan cyn myn’d oddicartref, iddi fyn'd yn "U. P." ar yr hen Hugh. Tra yr oedd Hugh Bryan yn myn’d ar i waered, yr oedd Enoc Huws yn gwthio yn mlaen, ac eisoes wedi cael y gair ei fod yn un garw am fusnes. Erbyn hyn, cenfigenid wrth y weddw am ei bod mor ffortunus yn ei chynorthwywr. Gwyddai Wil Bryan er's amser fod Enoc yn gwneud stori ar fasnach ei dad, hyny ydyw tad Wil, yn gystal ag yr eiddo ereill, a chydnabyddai hyny yn rhwydd, ond yr oedd ef yn mhell o edmygu Enoc. Yr oedd Wil yn rhy gyfrwys i adael i neb wybod ei fod yn cenfigennu at lwyddiant Enoc Huws, a'r unig sylw anngharedig a glywais o'i enau, hyd yr wyf yn cofio, oedd hwn :

" 'Does dim isio genius, wyddost, i wneud grocer llwyddianus — second a third rate men ydyw nhw i gyd. Yn wir, mae pob genius o siopwr a weles i rioed yn tori i fynu yn y diwedd; a rydw i'n mawr gredu mai rhw successful provision dealer oedd y confounded Demas hwnw y mae Paul ne Ioan, dwy i ddim yn cofio prun, yn sôn am dano yn y Testament."

Aeth Wil oddicartref, ac aeth ei dad "up the sprut," a Wil fuasai yr olaf i ddweud fod ei dad yn "genius," ac ni fuasai yn fyr o ddangos nad hyny oedd "point ei argument." Yr oedd pob peth fel pe buasai yn gweithio i ddwylaw Enoc Huws, ac yr oedd y weddw ac yntau cyn bo bir yn chwip ac yn dop. Yr