Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ar y weddw у fath arswyd i Enoc anesmwytho drwy i rywun gynyg iddo gyflog mawr, fel y darfu iddi heb ei gofyn, roddi iddo gyfran yn y fasnach, yr hyn a barodd i Enoc ddyblu ei ymdrechion. Drwy hyn heliodd Enoc, nid yn unig dipyn o arian iddo ef ei hun, ond ychwanegodd gryn lawer at ffortun y weddw. Aeth misoedd lawer heibio, a bwriodd y weddw arwyddion ei gweddwdod ymaith, a digwyddodd iddi—nid yr hyn a ddigwydd yn gyffredin i wragedd gweddwon, sef ail briodi — ond marw. Ond cyn marw gwnaeth r weddw ddarpariaeth yn ei hewyllys olaf a'i thestament, fod i Enoc Huws gael y cynyg cyntaf ar y siop a'r fasnach, a chael amser rhesymol i dalu i'r ysgutoryddion am y stoc. Neidiodd Enoc i'r cynygiad; ac ymddangosai pob awel fel pe buasai yn chwythu o'i du. Yn fuan iawn yr oedd ei lwyddiant masnachol yn destyn ymddiddan llaweroedd. Nid oedd Enoc Huws yn chwanog i lenwi swyddau cyhoeddus, ac nid oedd natur wedi ei ddonio â'r cymhwrsderau at hyny. Yr oedd efe, fel y crybwyllwyd yn barod, dipyn yn anhyf. Ond y mae rhyw reddf yn y natur ddynol yn ei gorfodi i gredu os bydd dyn yn llwyddianus yn y byd y dylai dori ffigiwr yn y capel, gan nad pa gymwysder fydd yn y dyn at hyny, a chan nad pa mor awyddus a fydd efe. Fel y mae y Lord Lieutenant of the County yn cael ei dueddu — yn anymwybodol hwyrach — i benodi un yn Ynad Heddwch am ei fod yn fab i foneddwr, ac heb feddwl am foment am ei gymhwysder i eistedd ar y fainc farnol, felly y mae rhyw lais yn mynwesau crefyddwyr pan gyfyd dyn dipyn yn y byd, yn dywedyd wrthynt_ " Mae'n bryd i'r dyn yma gael swydd." Ac felly, bu gydag Enoc Huws. Nid oes dim, mewn byd nac eglwys, yn llwyddo fel llwyddiant. Cynyddodd masnach Enoc yn dirfawr. Mae pobl, fel defaid, yn hoff o dyru i'r unfan. Ar ddiwrnod marchnad yr oedd siop Enoc Huws yn orlawn, tra yr oedd ambell fasnachwr, oedd cystal dyn ag yntau, ac heb fod yn byw yn mhell oddiwrtho, yn ddiolchgar am gael cwsmer yrwan ac yn y man. Taener y gair fod hwn-a-hwn " yn gwneyd yn dda," a thyra pobl i'w gynorthwyo i wneud yn well; sibryder fod un arall yn cael trafferth i gael y ddeupen yn nghyd, a gadewir ef gan y lluaws, ac weithiau gan ei gyfeillion, er mwyn gyru y ddeupen yn mhellach oddiwrth eu gilydd. Dyna'r gwir, yn dy wyneb, am danat ti, yr hen natur ddynol ! Ond yr oedd