Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysgafnhau dim ar ei fynwes. Cadwodd ei holl gyfrinach iddo ef ei hun. Yn ngwaelod ei galon dirstyrai y drychfeddwl ei fod yn perthyn o gwbl i'r clwb henlancyddol, ac nid oedd ganddo y gwroldeb — y dynoldeb — i ddiaelodi ei hunan. Pa ham? O herwydd, tybiai ef, ei fod wedi gosod ei serch yn rhy uchel — ar wrthddrych anghyrhaeddadwy. Unig ferch ydoedd hi i Capten Trefor, Tynyrardd, ac hwyrach mai yn y fan hon y dylwn ddwyn teulu Tynyradd i sylw y darllenydd.

PENNOD IV.

CΑΡΤΕΝ TREFOR.

Yr oedd Capten Richard Trefor wedi bod yn troi yn ein mysg er's amryw flynyddoedd, ond nid oedd efe, mwy nag Enoc Huws, yn frodor o'r dreflan. Pan ddaeth efe gyntaf atom, yr oedd yn mron ar ei ben ei hun fel un ag oedd yn gadael i'w farf dyfu ac heb eillio dim, yr hyn, nes i'r peth ddyfod yn ffasiynol, a greodd ragfarn gref yn ei erbyn yn mynwesau rhai pobl dda a duwiol. Edrychai hyd yn nod y gwr call hwnw, Abel Huws, braidd yn gilwgus arno. Yr oedd yn eithaf amlwg, meddai y rhai oeddynt yn cofio ei ddyfodiad cyntaf atom, nad oedd ganddo, y pryd hwnw, "fawr o ddim o'i gwmpas," ac mai dyn "yn juglo bywiolaeth" ydoedd. Troai o gwmpas y gweithfeydd mwn, ac yn fuan iawn, er na wyddai neb pa sut, yr oedd ganddo law yn y peth yma a llaw yn y peth arall. Credid yn gyffredinol mai dyn yn byw ar ei wits oedd Richard Trefor, ac yn sicr, nid oedd efe yn brin o honynt. Meddai allu neillduol i introdiwsio ei hun i bawb, ac yn fuan iawn gwelid ef yn ymddiddan a phersonau nad oedd llawer o'r hen drigolion erioed wedi tori Cymraeg â hwynt. Siaradai Richard Trefor Gymraeg a Saesneg yn llyfn a llithrig, a chordeddai eiriau yn ddiddiwedd os byddai raid. Yr wyf yn cofio clywed Wil Bryan yn cymeryd ei lw fod Richard Trefor, rywdro, wedi llyncu Johnson, Webster, a Geiriadur Charles fel dyn yn llyncu