Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tair pilsen. Gan nad beth am gywirdeb llŵ Wil gyda golwg ar Johnson a Webster, nid ydyw yn beth anhygoel i Trefor lyncu Geiriadur Charles yn ei grynswth, oblegid yr oedd efe yn hynod gyfarwydd yn athrawiaethau crefydd, ac yr oedd yr Ysgrythyrau ar benau ei fysedd. Yn y dyddiau hyny yr oedd cryn ddadleu ar bynciau crefyddol —"Etholedigaeth" a "pharhad mewn gras" a'r cyffelyb, ac ystyrid Richard Trefor yn un o'r rhai "trymaf" mewn dadl, a medrus yn y gwaith o hollti blewyn. Nid oedd efe y pryd hwnw yn aelod eglwysig, nac ychwaith yn neillduol o fanwl yn nghylch ei fuchedd, oblegid dywedid gan rai ei fod ef weithiau yn cymeryd "dropyn gormod." Nid rhyw uchel iawn y safai Richard Trefor yn meddwl mam Rhys Lewis, canys y mae'n gofus genyf ei chlywed yn dwerd

"Yr ydw i yn i weld o ru debyg arw, wel di, i Ifans, y sytêr, mae hwnw yn byticular iawn am gadw y ffordd fawr yn i lle ac yn daclus, ond anaml y bydd o'i hun yn'i thrafeilio hi. Ac felly mae Trefor; mi dasliet fod o'n ofalus iawn na fydd na chareg na phwll ar y ffordd i'r bywyd, ond mae gen i ofn nad ydi o'i hun byth yn ei cherdded. Mi glywes Bob yma'n deyd fod y Beibl ar bene'i fysedd o, ond mi fase'n well gen i glywed fod tipyn o hono yn'i galon o."

Ond nid hir y bu Richard Trefor heb ddyfod i'r Seiat, ac yr oedd yn hawdd deall ar waith Abel Huws yn ei holi mai syniad cyffelyb i'r eiddo Mari Lewis oedd ganddo yntau am. dano. Nid oeddwn y pryd hwnw ond hogyn, ond yr wyf yn

cofio y noswaith yn burion, ac o hyny hyd yn awr ni welais neb, wrth gael ei dderbyn i'r seiat, yn cael ei holi mor galed, ac yr wyf yn sicr pe'd holid rhai yn gyffelyb yn y dyddiau hyn, ac iddynt wybod hyny yn mlaen llaw, na ddeuai neb byth yn aelod eglwysig. Pan oedd Abel yn trin Richard Trefor, ni welais fam Rhys Lewis, cynt nac wedi hyny, yn arddangos y fath fwynhad. Dallai ei phen yn gam, a chadwai gil ei llygaid yn sefydlog ar Abel, fel pe buasai hi yn ceisio dweyd wrtho, "Hene, Abel, gwasgwch arno fo !" Ond pa gwrs bynag a gymerai Abel Huws nid oedd ball ar Richard Trefor — atebai bob cwestiwn yn llithrig a llathraidd. Mae'n gofus genyf fy mod i a Bob Lewis yn cydgerdded gyda'i fam ac Abel o'r capel y noswaith hono, ac ebe Mari Lewis

"Abel, ddaru chi ' rioed ymblesio i'n well na heno."