Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Aië, yn mha beth, Mari?" ebe Abel.

"Wel, ond wrth wasgu'r fèg ar y dyn ene," ebe Mari. " Yr ydw i'n ofni, Abel, nad ydi'r gwr ene ddim wedi tori asgwrn 'i gefn, a bod cryn waith cwaliffeio arno eto, er mor llithrig ydi' dafod o."

"Nid yr un amcan sydd gan bawb o honom, Mari, wrth ddod i'r seiat," ebe Abel.

"Wel, on 'doeddwn i'n dallt yn burion ar ych siarad chi, Abel, fod chi'n nelu at rwbeth felly, a fyddwch chi byth yn siarad dan ych dwylo. 'Doedd ene lwchyn o dinc yr enedigaeth newydd yno fo, a odd rwan? " ebe Mari.

Rhyfedd y fath insight i gymeriadau oedd gan yr hen bobl, ac mor graff yr oeddynt i wahaniaethu y lleidr a'r ysbeiliwr oddiwrth yr hwn a ddeuai drwy y drws i gorlan y defaid. A oedd concert pitch crefydd yr hen bobl yn uwch na'r eiddom ni, ac, felly, fod yn hawddach pigo allan yr ysgrechiwr yn y côr? Pa fodd bynag, nid oedd Richard Trefor yn llawn mis oed fel crefyddwr cyn i'r gair fyned allan ei fod ef a Miss Prydderch yr hon oedd ferch ieuanc grefyddol a diniwed, ac yn cael y gair fod ganddi lawer o arian—yn myn'd i'w priodi. Gwiriwyd y gair yn fuan—hyny ydyw, gyda golwg ar y priodi, ond gyda golwg ar yr arian ni wiriwyd mo hwnw byth, oblegid yr oedd Miss Prydderch can dloted a rhywun arall, ond ei bod yn digwydd gwisgo yn dda. Nid oedd Richard Trefor uwchlaw meddwl am arian, ond os priododd efe er mwyn arian cafodd gam gwag. Yn wir, clywais ef ei hun, yn mhen blynyddcedd ar ol priodi, pan oedd wedi cyrhaedd sefyllfa uchel yn y byd, yn dweyd nad oedd efe yn ddyledus i neb am ei sefyllfa anrhydeddus ond i'w dalent a'i ymdrechion personol, ac mai'r cyfan a gafodd efe fel cynysgaeth efo'i wraig oedd—gwyneb prydferth, calon lawn o edmygedd o hono ef ei hun, a llon'd bocs o ddillad costus. Ac nid oedd genyf le i amheu ei eirwiredd, oblegid clywais fwy nag un o'i hen weithwyr yn dweyd mai golwg ddigon tlodaidd oedd arno ef a'i wraig am blwc ar ol priodi. Ond yr oedd llwyddiant a phoblogrwydd mewn ystôr i Richard Trefor. Nid oedd yn bosibl, yn ol natur pethau, i oleuni mor ddisglaer gael ei gadw yn hir o dan lestr. Fel teigr yn gwneud llam ar ei ysglyfaeth, felly Richard Trefor, un diwrnod, a roddodd naid ar wddf ffawd — cydiodd ynddi, a daliodd ei afael ynddi am flynyddoedd lawer.