Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae Cymru benbaladr wedi clywed am waith mwyn Pwllygwynt. Ond hwyrach na wyr pawb mai Richard Trefor oedd ei gychwynydd—mai efe ydoedd darganfyddwr y "plwm mawr." O'r dydd cyntaf y gwnaed y darganfyddiad yr oedd dyrchafiad Richard Trefor yn eglur i bawb. Nid Richard Trefor oedd efo mwyach, ond Capten Trefor, os gwelwch yn dda. Dechreuwyd edrych ar Capten Trefor fel rhyw Joseph oedd wedi ei anfon gan ragluniaeth i gadw yn fyw bobl lawer. Cymerodd cyfnewidiad sydyn le yn syniadau pobl am dano. Buan y gwelodd y rhai a arferent edrych yn gilwgus arno mai tipyn o guldra oedd hyny o'u hochr hwy, ac ni chollasant amser i ad-drefnu eu meddyliau am dano. Yr hyn a elwid o'r blaen yn bechodau yn Richard, nid oeddynt ond gwendidau yn Capten Trefor. Yr oedd rhyw fai ar bawb, ac ni allesid disgwyl i hyd yn nod Capten Trefor fod yn berffaith. Nid oedd gwendidau Capten Trefor ond gwendidau naturiol, gwendidau hawdd iawn, erbyn hyn, rhoddi cyfrif am danynt, a'u hesgusodi mewn gŵr yn ei sefyllfa ef. Yr oedd Capten Trefor yn well dyn o lawer nag yr oeddid wedi arfer syniad am dano, ac, yn sicr, yr oedd efe yn fendith i'r gymydogaeth. Mewn gair yr oedd Capten Trefor yn engraifft deg mor dueddol ydyw y natur ddynol i ffurfio syniad anghywir am ddyn pan fyddo yn dlawd, ac mor anobeithiol ydyw i un gael ei iawn brisio nes iddo gyrhaedd rhyw raddau o lwyddiant bydol. Pe prophwydasai rhywun am Capten Trefor, fel y gwnaethai Mr. Bithel am Enoc Huws, sef na wnai efe byth feistr, buasai yn rhwym o gael ei ystyried yn aubrophwyd. Ar ysgwyddau Capten Trefor gorweddai swydd ac awdurdod yn rasol a gweddeiddlwys ddigon. Amlwg ydoedd ei fod wedi ei eni i fod yn feistr. Nid am ei fod yn arddangos unrhyw dra-awdurdod arglwyddiaethus a gorthrymus. Na, yr oedd efe yn rhy dirion a chyweithas i hyny. Meddai ffordd fwy rhagorol, a dull o ddweyd drwy ei ymddygiad wrth bawb oedd dan ei awdurdod "Gwelwch mor fwyn ydwyf, ac mor frwnt y gallwn fod pe bawn yn dewis. Gwyliwch gamarfer fy mwyneidd-dra. 'Dydw i ddim yn gofyn i chwi dynu eich het i mi, ond chwi wyddoch mai diogelaf i chwi ydyw gwneud hyny."

Yn y capel ni chymerai efe un amser ran gyhoeddus yn y gwasanaeth, ond yr oedd rhywbeth yn ei