Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deilwng o Capten Trefor, a chadw i fynu urddas ei gŵr, oedd drwy ymwisgo oreu fyth y gallai. Yn wir, yr oedd hi wedi arfer gwneud hyny pryd nad oedd ganddi foddion cyfartal i'w dymuniadau, ond yn awr nid oedd cythlwng ar ddeisyfiad ei llygaid. Eto i gyd yr oedd Mrs. Trefor yn grefyddol, a gadewch i ni obeithio, yn dduwiol hefyd. Nid oedd neb ffyddlonach na hi yn moddion gras. Yr oedd hi yn un o'r rhai hyny ag sydd yn gwneud i fynu aristocracy Ymueillduaeth, y rhai sydd yn creu edmygedd ynom eu bod wedi cael nerth i lynu efo chrefydd a pheidio myn'd i'r Eglwys neu annghofio eu Cymraeg a myn'd at yr achos Sasneg.

Yr oedd i Capten a Mrs. Trefor ferch—eu hunig-anedig. Susan Trefor oedd eilun ei thad a channwyll-llygaid ei mam! Dysgwyd hi i fynu yn nghanol moethau llwyddiant ei thad, a chafodd holl fanteision yr addysg a ellesid ei gael yn yr ardal y dyddiau hyny. Nid wyf yn cymeryd arnaf, ar hyn o bryd, ddweyd pa ddefnydd a wnaeth hi o'r manteision. Ond yr wyf yn cofio yn burion, pan oeddwn i yn hogyn, y golygid Susan Trefor y ferch ieuanc fwyaf brydweddol, ffasiynol, ddysgedig, a'r fwyaf unapproachable a berthynai i'n capel ni. Miss Trefor oedd safon ein holl ferched ieuainc. Hi (ar ol marw Abel Huws) oedd y gyntaf i gael ei smyglo yn gyflawn aelod neb ei holi. Ac y mae yn ffaith fod gwisg Miss Trefor wedi tynu mwy o ddagrau o lygaid merched ieuanc y capel nag a dynwyd gan yr holl bregethau a draddodwyd yn eu clywedigaeth yn y cyfnod hwnw. Ychydig o bobl gyfrifol—hyny ydyw respectable—a berthynai i'n cynulleidfa—rhai ar eu goreu oeddynt agos i gyd. Oblegid hyny prin y golygai Miss Trefor fod neb o "bobl y capel" yn gymwys gymdeithion iddi hi, ac nid oedd un o'n merched ieuainc mor uchelgeisiol ag i ymgyraedd at hyny. Ond yr oeddynt yn cael y fraint o'i gweled ar y Sabboth ac yn mawrhau y fraint. Yn ddigon naturiol, yr oedd yr ychydig a gawsent y fraint o siarad â Miss Trefor yn edrych yn ol at y troion hyny fel y llygadau mwyaf heulog yn hanes eu bywyd. Ni fynychai Miss Trefor yr Ysgol Sabbothol, ond gwnai i fynu am hyny drwy roddi tê rhad i blant bach tlodion, ac ar y cyfryw achlysuron yr oedd hi ei hun hyd yn nod yn tywallt tê i'r cwpanau, a dywedid ddarfod iddi fwy nag unwaith roddi ei llaw wen dan ên ambell hogyn bach pengrych yn garuaidd ods. Dywedai rhai, oeddynt dipyn yn genfigenus,