Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai merch ieuanc benwag a ffolfalch oedd Miss Trefor—ymwybodol o'i phrydferthwch ac anymwybodol o'i diffygion. Ond prin y gallasai hyny fod yn wir, a phrin y mae eisieu gwell rheswm am ddweyd fel yna na bod Wil Bryan yn edmygydd mawr o honi. Nid un oedd Wil i edmygu hoeden ddisynwyr, ac ni byddai ef byth yn blino sôn am "Sus," chwedl yntau. Gallai Wil oddef i ni yr hogiau ddweyd y peth a fynem am Capten Trefor, ac weithiau, ni phetrusai ef ei hun siarad yn frwnt am dano, am ei fod wedi perswadio ei dad i "speciletio" nes myn'd yn dlawd. Ond ni feiddiai un o honom sibrwd casair am "Sus" heb osod ei hunan yn agored i ddangos mai llwfren ydoedd, neu yntau ddangos pa berffeithrwydd a gyrhaeddasai yn y noble art of self-defence. Ac y mae gwir arall a ddylid ei ddweyd yn y fan hon, sef nad oedd Miss Trefor hithau yn diystyru Wil. Dywedodd Wil ei hun wrthyf yn gyfrinachol un tro— "yr wyf yn dallt y natur ddynol yn ddigon da i dy sicrhau nad small beer ydw i yn ngholwg Sus." Er, fel y mae Rhys Lewis yn yr Hunan-gofiant yn adrodd geiriau Wil, "nad oedd dim byd definite rhyngddo ef a Sus," eto, yr oedd y peth yn eithaf hysbys i ni, bechgyn y capel, fod gan Wil ddylanwad mawr arni. Gwyddem hefyd fod y Capten, gyda'i lygad barcut, wedi canfod nad annerbyniol oedd Wil gan ei ferch, a'i fod wedi dangos ei anfoddlonrwydd hollol i hyny. Pan soniais un tro am hyn wrth Wil, ebe fe, gyda'i rwyddineb arferol—

"Fel hyn y mae hi, wyddost, mae'r Capten, ar ol i nhad gario'i holl brês i Bwllygwynt, yn gwbod yn go lew be ydi'r gloch yn ein tŷ ni—fe ŵyr o'r gore nad oes acw fawr o obeth am five hundred a year. Mae o'n meddwl, wyddost, y meder o neyd well match, ac mewn ffordd, fedra i mo'i feio fo.

Ond bydae hi yn dwad i pitch battle rhyngo i a'r Capten am Sus, mae gen i idea go lew sut y troe pethe."