Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI

CYFFES FFYDD MISS TREFOR.

Pan aeth Wil Bryan oddicartref, wedi rhagweled mai "U. P. a liquidation by arrangement" a fyddai hi ar ei dad, Hugh Bryan, llawenhaodd calon un dyn gonest yn ei ymadawiad, sef yr eiddo Enoc Huws. Yr oedd Enoc, druan, yn un o'r dynion diniweitiaf a mwyaf difalais ar wyneb daear, ond nid allai efe aros Wil Bryan. Ni wnaethai Wil erioed ddim niwed iddo, ond yn unig ei anwybyddu. Ac eto, pe clywsai Enoc fod Wil wedi cael ei ladd, neu ei fod wedi ymgrogi, prin, yr wyf yn credu, y gallasai efo ymatal rhag gwenu, os nad llawenhau. Yr oedd cael gwared Wil, heb i'r naill amgylchiad na'r llall a grybwyllwyd ddigwydd, yn rhoi modd i Enoc Huws lawenhau yn ddirfawr, heb anesmwythyd cydwybod. Yn ystod y blynyddoedd yr oedd Enoc wedi bod yn myn’d a dyfod yn ein plith, nid oedd ugain gair wedi pasio rhyngddo ef a Miss Trefor. Ac eto, am dani hi į meddyliai efe y dydd, ac y breuddwrdiai efe y nos. Er na olygai Enoc—yn ngwyleidd-dra ei ysbryd, ei hun yn gydmar teilwng i Miss Trefor, ac er na choleddai efe y gobaith gwanaf y byddai i ddyheadau ei galon byth gael eu sylweddoli—yn wir yn ei fynudau synwyrol, canfyddai mai ffansi wyllt wirion oedd y cwbl—eto carai adael i'w ddychymyg fel gwenynen droi o gwmpas a hofran uwchben gwrthddrych ei ddymuniad yn ddinag, ac yr oedd gwybod fod rhywun arall yn mwynhau cymundeb agosach, yn ei lenwi âg eiddigedd, ac yn ei wneud yn druenus dros ben. Weithiai teimlai yn enbyd o ddig wrtho ei hun, a phryd arall chwarddai am ben ei ffolineb, ond, fel y dywedodd wrtho ei hun ugeiniau o weithiau, nid oedd ei feddyliau yn niweidio neb, ac ni wyddai neb am danynt. Yr oedd Enoc, fel y dywedwyd, yn llawen iawn am i Wil Bryan fyn'd oddicartref; ond ni chymerasai efe gan' punt am hysbysu ei lawenydd hyd yn nod i'w gyfaill penaf. Bellach nid oedd yr un gacynen i fyned rhwng y wenynen a'r blodyn, a phe cawsai Enoc sicr rwydd na ddeuai yr un gacynen arall, o'r braidd na fuasai yn