Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyn dedwydd. A'r dedwyddwch cymharol hwn a fwynhaodd efe am dymor lled faith, drwy roddi ffrwyn i'w ddychymyg i adeiladu castelli yn awyr Siop y Groes. Ond pe gwybuasai Enoc am "gastelli" Miss Trefor, prin y buasai ei gastelli ef nemawr uwch na phridd y wadd.

Llanwai Wil Bryan le mawr yn ngbalon Miss Trefor. Hoffai ei gwmni tu hwnt i bobpeth. Yr oedd gan Wil bob amser rywbeth i'w ddweyd, a'r rhywbeth hwnw yn wastad i'r pwrpas. Ni fyddai hi byth yn blino arno, ac ni fyddai byth, gydag ef, yn cael ei hun yn y sefyllfa anghysurus hono o ddyfeisio am beth i sôn nesaf, fel y byddai gyda'r "baboons erill." Ac hyd yn nod pan ddeallodd hi fod ei thad, Capten Trefor, wedi cyrhaedd gwaelod "shwmp" poced Hugh Bryan, ni pharodd hyny unrhyw ddiflasodd ar gwmni Wil, nac unrhyw leihad yn ei hedmygedd o hono. Yr oedd y Capten, fwy nag unwaith, wedi rhoi ar ddeall iddi ei anghymeradwyaeth o'i hoffder hi o Wil, ond ni wnaeth gwahardd yr afal i ferch Efa ond peri iddi ei ddymuno yn fwy. Teimlodd Miss Trefor oddi wrth ymadawiad Wil fwy nag y dymunasai hi i neb ei wybod, fwy nag a gyfaddefai hi wrthi hi ei hun. Am amser, collodd hyfrydwch yn mhobpeth, ac yr oedd meddwl am fyn'd i'r capel yn gâs ganddi. Ond am amser yn unig y bu hyn. Er yr holl sylw a dalodd efe iddi, a'r holl garedigrwydd a ddangosodd, a'r difyrwch diderfyn a hyfforddiodd efe iddi am gyhyd o amser, nid oedd yn bosibl, ymresymai Miss Trefor, fod Wil, wedi'r cwbl, yn hidio rhyw lawer ynddi, onide ni buasai efe yn myned ymaith heb gymaint a sôn gair wrthi, na gyru llinell ati. Ac fel geneth gall a synwyrol, eisteddodd Miss Trefor i lawr i ail-gynllunio program ei bywyd, ac ail-ffurfio ei hegwyddorion, yn ol y rhai y byddai iddi hi weithredu yn y dyfodol. Ni chymerodd iddi hi lawer o amser i ffurfio ei chredo a chyffes ei ffydd. Yr hyn a arferai gyniwair drwy ei meddwl a'i chalon yn afluniaidd, anmhenodol a gwag, a ddygodd hi yn ebrwydd i drefn a dosbarth, a phe buasai rhywun yn gofyn i Miss Trefor wrth ba enw y galwasai hi y pethau hyn, gwn yn sicr mai ei hatebiad a fuasai "Fy ideas." Ac, i nodi ychydig o'r ideas, gellir enwi y rhai canlynol—mae hi oedd y ferch brydferthaf yn y wlad (yr oedd Wil Bryan wedi ei sicrhau o hyny, ac yr oedd Wil cystal judge a neb y gwyddai hi am dano). Fod prydferthwch yn dalent, ac y dylai enill deg