Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dau eu cuwch ar y Capten am yr amen ar y llythyrau, ac yr oedd ei waith yn dal ei bin yn segur am ddeng munyd yn boenus iawn i'r fam a'r ferch, ac yr oeddynt ill dwyoedd yn mron hollti eisieu cael siarad. Rhoddai y ferch edrychiad ar y fam, ystyr yr hwn ydoedd, "On’d ydi o'n hir?" Rhoddai y fam edrychiad ar y ferch, "Treia ddal dipyn bach eto." A thipyn bach y bu raid iddi ddal, oblegid yn mhen dau funud, taflodd y Capten y pin ar y bwrdd, cyfododd ar ei draed, a cherddodd yn ol a blaen yn ddiamynedd hyd yr ystafell. Edrychodd y fam a'r ferch braidd yn frawychus, oblegid ni welsant yn mron erioed olwg mor gynhyrfus arno, ac ebai'r Capten –

"Fedra i ddim ysgrifenu, a threia i ddim chwaith, 'rwyf wedi blino a glận ddiflasu ar y gwaith, byth na smudo i!" "Tada," ebe Miss Trefor, "ga' i ysgrifenu yn ych lle chi? "

"Cei," ebe fe ("Cewch" a ddywedasai efe onibai ei fod wedi colli ei dymher, ac felly ei fod yn fwy naturiol). Cei," ebe fe, os medri di ddweyd mwy o gelwyddau na fi."

"The idea, dada!" ebe Miss Trefor.

"The idea, faw!" ebe'r Capten, "be wyddoch chi eich dwy am yr helynt yr ydw i ynddo o hyd yn ceisio cadw pethau i fynd yn mlaen? Be sy gynoch chi eich dwy i feddwl am dano heblaw sut i rifflo arian i ffwrdd, a sut i wisgo am y crandia, heb fawr feddwl am yfory? Ond, y mae hi wedi dwad i'r pen, ac mi fydd diwedd buan arna i ac ar y'ch holl ffylal chithe, byth na smudo i, a mi fydd! "

"O, Richard bach!" ebe Mrs. Trefor, oblegid yr oedd clywed y Capten yn siarad fel hyn yn newyddbeth hollol iddi. "O, Richard bach! roeddwn i'n disgwyl o hyd iddi dawad i hyn. Mi wyddwn o'r goreu y bydde i chi ddrysu yn y'ch synwyre wrth stydio cimint ar geology. Susi, ewch i nol y doctor ar unweth! "

"Doctor y felldith!" ebe'r Capten, yn wyllt, "be sy arnoch chi, wraig? Ydach chi'n meddwl mai ffwl ydw i? Drysu yn fy synwyre yn wir! fe ddrysodd ambell un ar lai o achos."

"Ac yr ydach chi wedi drysu, ynte, Richard bach? Wel, wel, be nawn ni rwan! Susi, ewch i nol y doctor yn y munyd!" ebe Mrs. Trefor yn wylofus.

Ac i nol y doctor yr aethai Miss Trefor y foment hono,