Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oni bai i'r Capten droi pâr o lygaid arni, a barodd iddi arswydo symud, ac a'i hoeliodd wrth y gadair. Ebe'r Capten eilwaith, gan gyfarch ei haner oreu—

"Wyddoch chi be, wraig! mi wyddwn eich bod wedi cysgu'n hwyr pan oeddan nhw'n rhanu ymennydd, ond feddyliais i rioed fod gynoch chi càn lleied o hono. 'Does fawr beryg i chi ddrysu yn eich synwyr, oblegid hyd a'i gwyr, 'does gynoch chi ddim o hono."

Nag oes, siwr, nag oes, 'does gen i ddim synwyr, dydw i neb, dydw i ddim byd! 'Dydw i'n dallt dim geology, a mi faswn yn leicio gweld y wraig sydd yn dallt geology. 'Rydw i yn cofio amser pan oedd rhwfun, oedd yn cyfri' hun yn glyfar iawn, yn meddwl fod gen i synwyr, a chawn i ddim llonydd ganddo. Ond rhaid nad oedd gen i ddim synwyr yr adeg hono, ne faswn i ddim yn gwrando arno fo. A 'does gen i ddim synwyr yrwan, dim, nag oes ddim!" ebe Mrs. Trefor, a dechreuodd wylo, a chuddiodd ei hwyneb yn ei ffedog.

Rhaid fod calon dyn mor galed a maen isaf y felin, os na effeithia dagrau ei wraig arno. Ac y mae pob gwraig yn ymwybodol o nerth ei dagrau, a gofalodd rhagluniaeth am roddi ystôr helaeth iddi o honynt. Pa nifer o ymresymiadau anatebwy a wnaed yn chwilfriw gan ddagrau gwraig! Ac nid oedd hyd yn nod Capten Trefor yn anorchfygol o flaen dagrau ei wraig, yn enwedig pan ddaeth Miss Trefor hithau gyda'i dagrau i ymosod ar y gelyn. Gyda'r arfogaeth ddeigrol gorchfygwyd y Capten mewn byr amser, ceisiodd amodau heddwch drwy eistedd i lawr wrth y pentan, a dechreu ysmygu. Wedi gwneud hyn, ebe'r Capten, yn llawer mwyneiddiach

"Sarah, maddeuwch i mi; mi ŵn mai ffwl ydw i, a mod i wedi annghofio fy hun. Mi ddylaswn wybod na wyddech chi na Susi ddim am fusnes. Ond bydae chwi'n gwybod am yr helynt yr ydw i ynddo o hyd, hwyrach y gwnaech chwi faddeu i mi. Sarah, peidiwch a chrïo, dyna ddigon, dyna ddigon, gwrandewch arna i."

"Tada," ebe Susi, "gobeithio nad ydach chi ddim yn myn'd i sôn am fusnes, am syndicate, a Board of Directors, a geology, a phethe felly, achos mi wyddoch na dda gan y mam a fine mo bethe felly."

"Efo'ch mam yr ydw i'n siarad, Susi, Sarah, wnewch chi wrando arna' i?" ebe'r Capten.