Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VIII.

CAPTEN TREFOR YN YSGAFNIAU EI GYDWYBOD.

"PAN gychwynais Bwllygwynt," ebe'r Capten, " mae'r nefoedd yn gwybod fy mod yn gobeithio iddo droi allan yn dda, ac yr oedd y miners mwyaf profiadol yn credu y gwnai. Yr oedd yn y Gwaith 'olwg' ragorol. Ni chefais, fel y gwyddoch, unrhyw anhawsder i hel cwmpeini. Gyda chymhorth Mr. Fox, o Lunden, fe ddarfu i ni berswadio llawer o bobl arianog i ymuno â'r cwmpeini, a chwi wyddoch, Sarah, fel y darfu i amryw o'n cymydogion, megis Hugh Bryan ac ereill, dlodi eu hunain er mwyn cael shares yn y Gwaith, ac yr oeddwn inau yn rhoi ar ddeall iddynt fy mod yn gwneud ffafr fawr â hwynt drwy adael iddynt gael shares am unrhyw bris. Mor lwcus oeddwn yn ngolwg pobl, ac yn fy ngolwg fy hun! Mor fuan y dechreuodd y rhai a arferent fy ngalw yn Richard fy syrio a fy ngalw yn gapten! Mewn ffordd o siarad, mi eis i'r gwely un noswaith yn feinar cyffredin, ac a gysgais, a deffroais yn y bore yn Gapten Trefor!—yn ŵr o barch a dylanwad—yn un yr oedd pobl yn ceisio dyfod i fy ffafr—yn un â llawer o ffafrau yn fy llaw i'w cyfranu i'r neb a fynwn—yn un ag yr oedd pobl yn cymeryd yn garedig arnaf dderbyn anrhegion gwerthfawr ganddynt! Nid oedd prin un dyn yn y dref a wrthodai unrhyw beth a ofynwn ganddo. Yr ydych yn cofio, Sarah, i mi ddim ond dweyd wrth Mr. Nott, yr Ironmonger, fy mod yn hoffi ei geffyl, a thranoeth gwnaeth anrheg i mi o hono, oblegid gwyddai Mr. Nott yn burion y gallwn roddi ambell geffyl yn ei ffordd ef os dymunen. Talodd yr anrheg hòno yn dda i Mr. Nott. Nid oedd eisieu i mi ddim ond edrych ar ŵn neu debot arian yn shop Mr. Nott, a byddai yma dranoeth with Mr. Nott's compliments! a llawer ereill yr un modd. Pan aeth Tynyrardd yn wag, yr oedd amryw yn ceisio am dano; ond Capten Trefor a'i cafodd. Sarah, fedrwch chwi ddweud faint o'r furniture yma a gafwyd fel anrhegion? a phaham? Am mai fi a ddisgrfrodd y plwm mawr yn Mhwllygwynt, ac am i mi, drwy fy nghyfrwystra gymeryd takenote yn ddistaw bach a gwneud fy