Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwi a Susi—Susi! sut y medrwch chwi gysgu tra mae'ch mam a minau yn sôn am ein hamgylchiadau?" ebe'r Capten yn wyllt.

"Mi wyddoch, tada," ebe Susi, dan rwbio ei llygaid, "Da dda gen i ddim clywed sôn am fusnes."

"Fe fydd raid i chwi, fy ngeneth," ebe'r Capten, "ymorol am fusnes i chwi eich hun rai o'r dyddiau nesaf. Ië, Sarah, yr oeddwn yn ofni eich bod chwi a Susi yn byw mewn fool's paradise. Yr ydym yn dlawd, dalltwch y ffact yna. Mae dialedd o arian wedi myn'd trwy fy nwylaw; ond 'does dim bendith wedi bod arnynt—maent wedi myn'd i rywle, a chwi weddoch eich dwy lle mae llawer o honynt wedi myn'd. Waeth i ni edrych ar y ffaith yn ei gwyneb—yr ydym yn dlawd, ac fe fydd Pwllygwynt a'i ben ynddo cyn pen y mis."

"O mam!" gwaeddai Miss Trefor.

"Mamiwch chwi fel y mynoch," ebe'r Capten, a rhyngoch chwi a fi, miss, fe ddylasech chwi fod yn fam eich hun cyn hyn, yn lle rhoi y fath airs i chwi eich hunan. Rhaid i chwi ddyfod i lawr beg neu ddau a chymeryd rhywun y gellwch gael gafael arno, pe na byddai ond miner cyffredin."

"The idea, Tada!" ebe Miss Trefor.

"The idea'r felldith! ydach chwi ddim yn rialeisio eich sefyllfa? oes dim posib pwnio dim yn y byd i'ch pen chwiban chwi? " ebe'r Capten, wedi colli ei dymher eilwaith.

"Richard," ebe Mrs. Trefor yn bwyllog, "cedwch eich tempar. Os dyna yw ein sefyllfa—os tlawd yden ni, ar ol yr holl flynyddoedd o gario mlaen, be ydach chi'n feddwl neud? "

"Dyna chwi, yrwan, Sarah, " ebe’r Capten, yn siarad fel gwraig synwyrol. Dyna ydyw y cwestiwn, Sarah. Wel, dyma ydyw fy mwriad—cadw yr appearance cyd ag y medraf, a dechreu gwaith newydd gynted ag y gallaf."

Ar hyn curodd rhywun y drws, ac yn ddilynol gwnaeth Mr. Denman ei ymddangosiad.