Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IX.

CYFRINACHOL.

"Wel, dyma Mr. Denman! " ebe'r Capten, " Soniwch am—— ac y mae o'n siwr o ymddangos. Yr oeddym just yn siarad am danoch yrwan."

"Beth wnaeth i chi siarad am dana' i?" gofynai Mr. Denman.

" Wel," ebe’r Capten, "deud yr oeddwn i—ond dyma chwi, Mr. Denman, fe awn ni i'r smoke room, fe fydd yn dda gan y merched yma gael gwared o honom."

Wedi i'r ddau fyned i'r smoke room, ychwanegai y Capten–"lë, dyna oeddwn i yn ddeud, Mr. Denman, cyn i chwi ddyfod i mewn, mai campus o beth a fyddai eich gweled chwi—sef yr unig un o'n cymydogion sydd wedi dal i gredu yn Mhwllygwynt—mai campus o beth fydd eich gweled ryw ddiwrnod yn ŵr boneddig. Yr ydych yn haeddu hyny, Mr. Denman, mi gymraf fy llw, os haeddodd neb erioed."

"Os na ddaw hyny i mi yn fuan," ebe Mr. Deuman, "yr wyf yn debycach o lawer o ddiweddu fy oes yn y workhouse. A oes genych chi ryw newydd am Bwllygwynt? fath olwg sydd acw yrwan?"

"Wel," ebe'r Capten, "'does gen i ond yr hen stori i'w hadrodd wrthych, Mr. Denman, ac nid yr hen stori chwaith. Mae acw well golwg yrwan nag a welais i er's tro. Ac eto, mae gen i ofn deud gormod, rhag y cawn ein siomi. Mae yn well gen i bob amser ddeud rhy fychan na deud gormod. Ond, fel y gwyddoch, yr ydym yn gorfod ymladd â'r dwr yn barhaus—mae'r elfenau yn ein herbyu—a phe buasai y directors wedi cymeyd fy nghynghor i, sef cael machinery digon cryf yn y dechreu, fe fuasem wedi cael y goreu arno er's talwm. Ond nid bob amser y medr dyn yn gael ei ffordd ei hun, yn enwedig pan na fydd efe ond gwas. Mi ddywedaf hyn, ac wrth gwrs, did wyf yn cymeryd arnaf fod yn anffaeledig, ond can belled ag y mae gwybodaeth ddynol yn myn’d—ac y mae genyf dipyn o brofiad erbyn hyn—can belled, meddaf, ac y