Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae gwybodaeth ddynol yn myn'd, mae acw well golwg yrwan nag a welais i o'r blaen. Hwyrach—ond 'dydw i ddim yn meddwl y bydd—ond hwyrach y bydd raid i ni fod dipyn yn amyneddgar. Chwi wyddoch eich hun fod y plwm a gawsom —'doedd o ddim llawer o beth mi wnaf addef—ond chwi wyddoch fod y plwm a gawsom yn dangos yn eglur fod yno ychwaneg o hono. Y cwestiwn ydyw—a'r unig gwestiwn—a fydd gan y cwmpeini amynedd, ffydd, a dyfalbarhad, i ddal nes d'od o hyd i'r cyfoeth. Pe buasai pawb o'r cwmpeini fel chwi, Mr. Denman, sef yn ddynion a wyddant rywbeth am natur gwaith mwn, fe fuasai rhyw obaith iddynt ddal ati. Ond pa fath ddynion ydynt? Ni ddywedaf i chwi: dynion wedi gwneud eu harian mewn byr amser, megis merchants, ac felly yn disgwyl i waith mine dalu proffit mawr mewn ychydig amser—pobl ddiamynedd, os na thaliff rhywbeth ar ei union. Ond nid peth felly ydyw gwaith mwn. Mae'n rhaid aros weithiau flynyddoedd, ac y mae llawer, fel y gwyddoch, ar ol gwario miloedd, yn rhoi gwaith i fynu am nad oes ganddynt amynedd i aros. Ac yna y mae ereill yn dyfod yn mlaen, ac heb ond y nesaf peth i ddim o gôst, yn cymeryd y cyfoeth a adawyd. Yr ydym wedi bod dipyn yn anlwcus yn Mhwllygwynt, a mi wn ei fod yn beth profoclyd disgwyl a disgwyl a chael ein siomi, yn enwedig pan y mae cymaint o arian caled yn cael eu talu i lawr o hyd. Yr wyf yn gobeithio yn fawr y gwel y cwmpeini ei ffordd yn glir i gario y gwaith yn mlaen am dipyn bach o leiaf, pe na byddai ond er mwyn fy ngharitor i, ac er mwyn profi fy mod wedi dweud y gwir. Ond, rhyngoch chwi a fi, fyddai ddim yn rhyfedd genyf byddae y Saeson yna yn rhoi'r gwaith i fynu, a hyny pan ydym o fewn. dim i gyrhaedd y plwm, ac fe fyddai hyny yn bechod o beth. Pe digwyddai peth felly i Bwllygwynt, mi wuawn lw nad awn byth wed'yn dan Board of Directors na dim arall, ond y mynwn gael fy ffordd fy hun o drin y gwaith."

Wyddoch chi be', Capten," ebe Mr. Denman, "bydae'r Saeson yna, fel yr ydach chi'n 'u galw nhw, yn rhoi'r gwaith i fynu fory, fydde hyny ddim yn ddrwg gen i, mewn ffordd o siarad. Nid am nad ydw i'n credu fod yno blwm—na, mae gen i ffydd o'r dechre yn Mhwllygwynt. Ond bydaswn i'n gwybod y buasai raid i mi wario cymaint o arian faswn i 'rioed wedi ymuno â'r cwmpeini. Feddyliais i 'rioed y buasai