Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

raid i ni wario awr na rhyw gant neu ddau, ond erbyn hyn y mae agos y cwbl sy' gen i wedi myn'd, a mi fydd raid i mi, beth bynag wnaiff y Saeson, roi'r lle i fynu—fedr y mhoced i ddim dal."

"Yr wyf yn gobeithio," ebe'r Capten, "nad ydych yn meddwl y gwnawn i eich camarwain yn fwriadol, fodd bynag? Ac am eich poced, wel, yr ydym yn gwybod yn go lew am hono. Pe buasai gan Capten Trefor boced Mr. Denman, fe fuasai yn cysgu yn llawer tawelach heno. Mae genych dai a thiroedd, Mr. Denman, ac os rhowch i fynu eich interest yn y Gwaith, chwi a edifarhewch am bob blewyn sydd ar eich pen. Nid ydyw ond ynfydrwydd sôn am roi i fynu yrwan, pan ydym ymron cael y goreu ar yr holl anhawsderau. Chwi wyddoch fod gen inau shares yn y Gwaith; ond cyn y rhown i fynu yrwan, mi werthwn fy nghrys oddiam fy nghefn."

"Mae gen i bob ffydd ynoch chi, Capten," ebe Mr. Denman. "Yn wir, faswn i'rioed wedi meddwl am gymeryd shares yn y Gwaith oni bae mod i yn eich adnabod chi, a’n bod ni'n dau yn aelodau yn yr un capel. Na, beth bynag a ddaw o Bwllygwynt, mi ddywedaf eich bod chi yn onest. Ond mater rhaid fydd arna' i roi fynu. Waeth i mi ddeud y gwir, yr wyf wedi mortgagio y tai a'r tiroedd agos i'w llawn werth, oddigerth y tŷ yr ydw i'n byw ynddo, a wyr y wraig acw mo hyny. Byddae hi yn gwybod, fe dore 'i chalon. Fe wyr am y prinder arian sydd acw y mod i wedi cario dialedd i Bwllygwynt, a mae hi yn rhincian, rhincian, o hyd, ond byddae hi'n gwybod y cwbl, mi fydde raid i mi hely mhac."

"Mae'n ddrwg genyf eich clywed yn deud fel yna," ebe'r Capten, "ac hwyrach y bydd yn anodd genyf gredu, ond yr wyf wedi colli ambell noswaith o gysgu, mae Sarah'n gwybod, wrth feddwl am yr aberth mawr yr ydych yn ei wneud. Ond yr wyf yn gobeithio, ac yn credu, y gwelaf y dydd pan fyddwch yn deud y cwbl i Mrs. Denman, ac y bydd hithau yn eich canmol. Ond y mae'r cwbl yn dibynu ar a fydd gan y cwmpeini ffydd ac amynedd i fyned yn mlaen."

"Bydae'r cwmpeini yn rhoi'r Gwaith i fynu, be naech chi, Capten, ai myn'd i fyw ar eich arian?" gofynai Mr. Denman.

"Nid yn hollol felly, Mr. Denman, ond yn hytrach ail cychwyn," ebe'r Capten.

"Pwllygwynt?" gofynai Mr. Denman.