Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhywun mwy na'i gilydd yn gwybod fy secrets, Mr. Denman ydyw hwnw. Mi ddywedaf beth arall, ddarfu i mi erioed feddwl am y Gwaith y crybwyllais am dano—yr wyf yn ei alw yn Waith 'er nad ydyw wedi ei ddechreu, am nad ydyw ond pwnc o amser yn unig—ddarfu i mi erioed feddwl am y fentar mae fy llygaid arni heb eich bod chwithau yr un pryd yn fy meddwl. Mi fyddwn yn dweud fel hyn—Richard Trefor, wyr neb arall, ond fe wyddost di, fod yna blwm ddialedd yn y fan ar fan. Pwy sydd i gael bod yn gyfranog â thi yn y cyfoeth? Wel, os oes rhywun, Mr. Denman,' meddwn."

"Yr wyf yn bur ddiolchgar, Capten," ebe Mr. Denman, "ond y mae arnaf ofn nad allaf fi fentro dim chwaneg. Nid oes genyf ddegpunt arall i'w gwario heb wneud cam â fy nbeulu."

"Yr ystyriaeth yna yn benaf, er nad yn hollol," ebe'r Capten, "sydd yn fy ngorfodi i'ch gosod ar yr un tir a mi fy hun gyda'r fentar newydd. Cofiwch, fydd yno ddim Saeson i'n rheoli. Yr ydych chwi a minau hyd yn hyn wedi gwario ein harian i blesio Saeson anwybodus, ac, fel y dywedais, fyddai ddim yn rhyfedd byddae nhw yn taflu y Gwaith a'r gôst i gyd i fynu yn y diwedd, ac y mae'n bryd i chwi a minau droi ein llygaid i rywle lle y gwyddom y cawn ein harian yn eu holau.

Gwaith fydd—arhoswch, ddarfu i mi ddim dweud eto wrthych enw y lle y mae fy llygad arno?—Naddo? Wel, dyna ydyw'r lle—daiff o ddim pellach, ar hyn o bryd, Mr. Denman? Wel, dyna'r lle—Coed Madog! Coed Madog!! Coed Madog!!! (ebe’r Capten, gan ail-adrodd yr enw yn ddystaw a chyfrinachol, pan welodd ar wyneb Mr. Derman arwyddion fod pob llythyren yn yr enw fel pe buasent yn treiglo i lawr ei gefn rhwng ei gig a'i groen). Ië, Gwaith fydd Coed Madog i enill arian ac nid i'w taflu i ffwrdd ar bob anialwch. Yr ydych chwi a minau, Mr. Denman, wedi gwario digon, ac y mae'n bryd i ni ddechreu enill. Rhyngoch chwi a fi, 'does gen inau yr un deg punt i'w taflu i ffwrdd, ond 'does dim eisieu i bawb wybod hyny. Wrth gwrs, fe fydd raid gwario rhyw gymaint cyn y daw y Gwaith i dalu, a dyna pam yr oeddwn yn dweud y byddai raid i ni gael ychydig ffryndiau gyda ni. Yn awr, Mr. Denman, ni a edrychwn ar y mater fel hyn : Y chwi a minau, mewn ffordd o siarad, a biau Waith Coed Mladog—yr ydym ar yr un footing. Nid oes gan un o