Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

honom arian i'w taflu i ffwrdd. Mae'n rhaid gwario rhyw gymaint. Felly y mae'n rhaid i ni gael rhywun neu rywrai i gymeryd shares. Yr ydych chwi yn adnabod pobl yn well na mi, ac yn gwybod am eu hamgylchiadau. Os gallwn wneud daioni i gyfeillion y capel, goreu oll, ond os bydd raid mynd at enwadau ereill, fydd mo'r help. Pwy fyadant, Mr. Denman? "

"Wel, Capten," ebe Mr. Denman, "o'n pobol ni fedra i feddwl am neb tebycach na Mr. Enoc Huws, Siop y Groes, a Mr. Lloyd, y twrne."

"Rhyfedd!" ebe'r Capten, "fel y mae ein meddyliau yn cydredeg. Am Mr. Huws y meddyliais inau gyntaf. Wni beth am Mr. Lloyd, ond y mae Mr. Huws, fe ddywedir, yn ddyn sydd wedi gwneud llawer o arian. Mae'n ŵr ieuanc parchus ac o safle uchel fel masnachwr, ac yn ddiameu yn grefyddol, ac os gallwn roi rhywbeth yn ei ffordd gyda'r Gwaith, fe fyddwn ar yr un pryd yn gwneud daioni i'r achos, oblegid yr wyf fi fy hun yn cyfrif mai Mr. Huws ydyw y dyn goreu a feddwn yn y capel—hyny ydyw, fel gwr ieuanc. Y pwnc ydyw a allwn ni ei gael i weled lygad yn llygad â ni. Mae mining, yn ddiau, yn beth dieithr iddo, a chyda rhai felly nid gwaith hawdd ydyw dangos pethau yn eu lliwiau priodol. A wnewch chwi ei weled, Mr. Denman? "

"Yr wyf yn meddwl," ebe Mr. Denman, mae y cynllun goreu a fyddai i chwi anfon am dano yma yrwan." "Mae y dalent o daro'r hoel yn ei phen genych, Mr. Denman, ' ebe'r Capten, a chan eistedd i lawr wrth y bwrdd, ysgrifenodd y Capten nodyn boneddigaidd at Enoc Huws yn gofyn iddo ddyfod can belled a Thynyrardd. Tra mae y Capten yn ysgrifenu y nodyn, a'r forwyn yn ddilynol yn ei gymeryd i Siop y Groes, hwyrach mai goreu i mi fyddai rhoi i'r darllenydd gipolwg ar amgylchiadau & sefyllfa meddwl Enoc, druan.