Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X.

MARGED.

Nid oedd Enoc Huws ond naw-ar-hugain oed, ond yr oedd efe eisoes yn teimlo ei fod yn hen lanc, ac yn etifeddu holl annghysuron y sefyllfa ddiwarafun hono. Yr oedd efe yn llanc o deimladau tyner a gwyliadwrus iawn o'i gymeriad. Wrth ddewis ei housekeeper, gofalodd am gael un lawer hŷn nag ef o ran dyddiau. Ei henw oedd Marged Parri. Yr oedd Marged wedi gweled goleuni dydd ugain mlynedd, o leiaf, o flaen ei meistr—ffaith y rhoddai hi gryn bwys arni pan ddeuai cwestiwn dyrus ac anhawdd ei benderfynu rhyngddynt, megys, Pa un ai nos Sadwrn ai bore Sul y dylid pilio tatws? Pa un ai berwi ai rhostio nec o fytyn a fyddai oreu? a chwestiynau dyrus ereill cyffelyb. Gwir dieithriad ydoedd na soniai Marged un amser am ei hoedran oddi eithr pan amheuid cywirdeb ei barn. Ar adegau felly dywedai, "Mistar, yr ydw’i yn hyn na chi, a fi ddylai wbod ore."Ni fuasai Marged erioed yn briod—nid am na chafodd gynygion gwerthfawr lawer gwaith, meddai hi, ond am fod yn well ganddi fywyd sengl. Ond tybiai ei meistr, Enoc Huws, ei fod yn canfod rheswm arall am sefyllfa ddibriod Marged, a'r rheswm hwnw oedd ei chymhwysder penaf yn ei olwg fel housekeeper—sef anserchawgrwydd ei hwynebpryd. Yr oedd un golwg ar wyneb Marged yn ddigon i argyhoeddi pob dyn rhesymol na chusanwyd mohoni erioed oddigerth iddi daraw ryw dro ar ddyn dall o'i enedigaeth. Ac nid ei hwyneb oedd yr unig reswm tybiedig am ei sefyllfa ddibriod; oblegyd nid oedd ffurf ei chorph yn un o'r rhai mwyaf gweddeiddlwys, nac yn debyg i un a fuasai yn enyn edmygedd unrhyw ŵr ieuanc o chwaeth uchel, neu aflonyddu dim ar ei gwsg. Yr oedd yn fèr a llydan, ac yn peri i un feddwl fod Marged, ar un adeg, wedi gorfod cario pwysau anferth ar ei phen, yr hyn a achosodd iddi suddo gryn lawer iddi hi ei hun, a byrhau ei gwddf a'i choesau, a lledu allan ei hysgwyddau, ei gwasg, a'i hipiau. Ni fuasai llawer o waith cyn a morthwyl yn angenrheidiol ar Marged i'w gwneud