Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gron, a phe digwyddasai iddi syrthio ar ymyl crib y Foel Famau, ar y cwr deheuol, ni pheidiasai a throelli nes cyrhaedd Rhuthyn.

Fu erioed gamp na fyddai rhemp, ac hwyrach na fu erioed remp na fyddai camp. Yn ei ffordd ei hun yr oedd Marged yn ddiguro. Buasai yn well ganddi gael tori ei bŷs nag i rywun awgrymu fod unrhyw aflerwch yn y tŷ. Yr oedd pob peth oedd dan ei gofal yn hynod o lanwedd, a phe buasai rhywun yn awgrymu yn wahanol buasai yn drosedd anfaddeuol yn erbyn Marged. Anffaeledigrwydd oedd rhinwedd penaf Marged, a'r hwn a amheuai hyny oedd y pechadur penaf. Nid ar unwaith y darganfyddodd Enoc Huws yr anffaeledigrwydd hwn. Mae yn wir ei fod wedi cael cymeriad rhagorol i Marged cyn ei chyflogi, ond, fel yr awgrymwyd, ei rhinwedd penaf yn ei olwg y pryd hwnw oedd ei bod yn annaearol o hyll—mor hyll fel na feiddiai y tafod mwyaf enllibgar lunio ystori ei fod ef a'i housekeeper ar delerau rhy gyfeillgar. Nid oedd ganddo ddrychfeddwl yr adeg hòno am anffaeledigrwydd Marged. Yn ystod yr wythnosau cyntaf y bu hi yn ei wasanaeth nis gallai Enoc Huws wneud na pren na chynffon o honi. Os cwynai efe am unrhyw ran o'i gwasanaeth, elai Marged i'w mwgwd, ac ni siaradai ag ef am ddyddiau. Fel cais olaf cyn ei throi ymaith, meddyliodd Enoc am ei chanmol, i edrych pa effaith a gaffai hyny ar ei gwasanaeth. Ac un diwrnod, pan oedd Marged wedi parotoi cinio iddo nad allai un Cristion o chwaeth ei fwyta, ebe fo

"Marged, mae'n biti o beth fod fy stymog mor ddrwg heddyw, achos yr ydach chi wedi gneud ciuio splendid—fase dim posib iddo fod yn well. Bydaswn i yn gwbod y basech chi'n gneud cinio mor dda mi faswn wedi gwadd rhwfun yma, ond y mae gen i ofn y bydd raid i mi fyn’d at y doctor i gael rhwbeth at fy stymog."

"Ydi," ebe Marged," mae'r cinio yn suffisiant i undyn byw, a mi na dipyn o dê wermod i chi, mistar, achos i be 'rewch chi at y doctor pan fedra i neud cystal ffisig ag yntau a gwell."

Ni fu raid i Enoc byth ond hyny gwyno rhyw lawer yn erbyn yr ymborth. Ac felly gyda phob rhan o wasanaeth Marged : pan fyddai yn ddiffygiol nid oedd eisieu ond ei ganmol, a byddai yn lled agos i fod yn iawn y tro nesaf. Yr