Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd canmoliaeth beunyddiol ei meistr wedi peri i Marged ffurfio syniad uwch o lawer—os oedd hyny yn bosibl—am ei rhinweddau nag a feddai hi yn wreiddiol, a gwneud iddi reoli a rhoi ei bŷs yn mhob brywes o'i eiddo, oddigerth y siop. Y siop oedd yr unig ran o ymerodraeth Enoc Huws nad oedd Marged wedi ei goresgyn. Mor llwyr y rheolai hi ei dŷ, fel yr ofnai Enoc, ar adegau, gael mis o notis ganddi—hyny ydyw, mis o notis iddo ef fyned ymaith. Ond pa help oedd ganddo? Os cwynai efe at rywbeth, neu os ceisiai efe osod ei gynlluniau ei hun yn mlaenaf, elai Marged i'w chidwm, ac ni wnai na rhych na gwellt; tra, o'r ochr arall, os gadawai efe iddi gael ei ffordd ei hun, ond odid na fyddai pethau yn lled agos i'w lle. Yr oedd cadw Marged mewn hwyl a thymer dda mor bwysig yn ngolwg Enoc, ac yn cymeryd cymaint o'i feddwl, yn mron, a'i holl oruchwylion eraill gyda'u gilydd. Pan fyddai angen arno ddwyn rhywbeth yn mlaen i dori ar unrhywiaeth ei fywyd henlancyddol, byddai raid iddo fyfyrio yn hir pa fodd y gallai efe wneud hyny heb roi Marged allan o gywair. Fel y dywedwyd o'r blaen, nid oedd yr olwg ar Marged ar y goreu yn serch—hudol, ac arswydai Enoc ei gweled wedi cythruddo a moni. Pan fyddai hi yn y dymher hòno rhoddai yr olwg a fyddai arni yr horrors iddo, ac aflonyddai ei gwsg am nosweithiau. Er ei fod, erbyn hyn, yn deall ffordd Marged yn lled dda, nid allai efe lai na theimlo ei sefyllfa yn dra darostyngol wrth ystyried ei fod ef, oedd yn fasnachwr llwyddianus, yn un oedd yn cael edrych i fynu ato gan lawer o'i gymydogion, ac yn cael ei barchu gan ei gyd-aelodau yn y capel am ei ddefnyddioldeb a'i haelfrydedd—ei fod, er y cwbl, dan ryw fath o raid yn nglŷn â'i holl amgylchiadau a'i gynlluniau i gymeryd Marged i ystyriaeth ac i fanwl chwilio pa fodd y gallai efe gadw y ddysgl yn wastad gyda hi. Oni buasai fod calon Enoc Huws—pob ystafell o honi—wedi ei meddianu yn hollol gan Miss Trefor—er na choleddai efe obaith am i'w serch gael ei ddychwelyd—buasai ar lawer pryd yn troi allan i chwilio am gydmar bywyd heb ofalu pa beth a fuasai sefyllfa fydol yr un hòno, gan mor ddigysur y teimlai ei hun. Yr oedd ei ofalon yn fawr; ac fel un oedd wedi ymroddi i fasnach, nid oedd ganddo amser i wneud cyfeillion. Yr adeg hapusaf ar Enoc oedd pan fyddai yn berffaith sicr fod Marged yn cysgu. Yr oedd ganddo ystafell fechan mewn cysylltiad a'r siop yr hon a droesai efe yn